Daioni, drygioni a dioddefaintTarddiad drygioni

Weithiau mae drygioni a dioddefaint yn gallu peri i bobl gwestiynu eu credoau crefyddol. Mae credoau Cristnogol am darddiad dioddefaint yn y byd a sut i ymateb i'r broblem hon yn amrywio.

Part ofAstudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Tarddiad drygioni

Ewyllys rydd

Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi rhoi ewyllys rydd i fodau dynol. Hwn yw gallu bodau dynol i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae'n golygu, er bod Duw wedi gwneud byd a'i fod yn dda, mai bodau dynol sy'n penderfynu gwneud pethau da neu ddrwg.

Beth mae Cristnogaeth yn ei ddweud am darddiad drygioni?

Mae llawer o Gristnogion yn credu bod drygioni'n digwydd oherwydd bod wedi anufuddhau i Dduw. Yng , bwytodd Adda ac Efa y ffrwyth gwaharddedig. Cosbodd Duw Adda ac Efa am hyn, a'r gosb oedd profi dioddefaint yn eu bywydau. 'Y cwymp' yw'r enw ar hyn.

Mae rhai Cristnogion yn credu bod pawb wedi etifeddu'r duedd i bechu gan Adda ac Efa. yw'r enw ar y gred hon. Yn ôl y gred hon, mae pob bod dynol yn cael ei eni â thuedd tuag at ddrygioni a'r gallu i achosi dioddefaint.

Yn mae'n dweud:

...dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid.
Genesis 8: 21

Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion hefyd yn credu, yn ogystal â phŵer dros ddaioni (Duw), bod pŵer dros ddrygioni hefyd. Mae Cristnogion yn cyfeirio at y pŵer dros ddrygioni fel neu'r Diafol. Y gred draddodiadol yw mai oedd Satan a gafodd ei daflu allan o'r Nefoedd am fod yn anufudd i Dduw.

Question

Disgrifia'r credoau Cristnogol am bechod gwreiddiol.

More guides on this topic