Her y Piwritaniaid yng Nghymru
Yn gyffredinol, roedd Cymru wastad wedi bod yn ceidwadolGofalus a gwrthwynebu newid. o ran ei safbwyntiau crefyddol, gyda Chatholigiaeth yn ennill ei blwyf yn y wlad. Am lawer o deyrnasiad Elisabeth, ni chafwyd rhyw lawer o weithgaredd Piwritanaidd yng Nghymru, ar wahân i ambell le oedd mewn cysylltiad mwy rheolaidd â Lloegr, fel ar y ffin neu drwy ffyrdd masnachol i mewn i’r wlad.
Roedd cael mynediad i lawer o Gymru yn anodd, oedd yn ychwanegu at gymunedau ynysig. Hefyd, gan mai’r Gymraeg oedd y brif iaith, roedd hi’n anodd i Biwritaniaeth ehangu oherwydd mai prif iaith Piwritaniaeth oedd Saesneg.
Dim ond yn ystod degawd olaf teyrnasiad Elisabeth y dechreuodd y gweithgarwch Piwritanaidd gynyddu, ac hyd yn oed wedyn, roedd yn gymharol araf.
John Penry
Y Piwritan Cymreig mwyaf blaenllaw oedd John Penry, a anwyd ger Llangamarch yn Sir Frycheiniog yn 1563. Derbyniodd ei addysg yng Nghaergrawnt ac yna Rhydychen, a daeth yn Biwritan cryf, gan wrthwynebu esgobion ac Ardrefniant Crefyddol Oes Elisabeth.
Yn ystod y 1580au, dechreuodd ysgrifennu pamffledi oedd yn feirniadol o’r Ardrefniant ac yn galw am ddiwygio’r Eglwys. O ganlyniad i’w weithgarwch, cafwyd gwrthdaro rhyngddo â John Whitgift, ac yn 1587 ar ôl cyhoeddi pamffled oedd yn feirniadol iawn o grefydd yng Nghymru ac esgobion yn gyffredinol, cafodd ei arestio a’i garcharu.
Parhaodd ei weithgarwch nes iddo ddychwelyd yn 1592, gan ymgartrefu yn Llundain a dod i gysylltiad â Phiwritaniaid eithafol. Yn sgil hynny, cafodd ei arestio, ei roi ar brawf, a’i ddienyddio yn y pen draw ym mis Mai 1593 – y merthyrRhywun sy’n marw dros eu credoau. Piwritanaidd Cymreig cyntaf .
Ar ôl y 'Tair Erthygl', parhaodd Elisabeth i weithredu yn erbyn eglwysi annibynnol a Phiwritaniaeth yn gyffredinol, ac yn benderfynol o gynnal unffurfiaethPopeth i fod yr un peth. o fewn Eglwys Loegr. Gan ei bod yn gwrthod ildio o gwbl, arweiniodd hynny at gynnydd yn y bygythiad Piwritanaidd.
Cafodd sawl arweinydd ei ddienyddio, ond erbyn diwedd teyrnasiad Elisabeth, doedd Piwritaniaeth, er ei fod wedi’i ynysu, ddim wedi diflannu. Byddai eu dylanwad yn y Senedd yn parhau i achosi problemau i’r teyrn am ddegawdau i ddod.