Y theatr yn oes Elisabeth
Ar ddechrau’r 16eg ganrif, roedd nifer o ddramâu yn seiliedig ar themâu crefyddol. Roedden nhw’n cael eu galw’n 'ddramâu moes' ac yn dangos ymddygiad da a drwg. Byddai mathau eraill o ddramâu, fel y ‘dramâu miragl’ yn dangos golygfeydd o’r Beibl.
Y prif eithriad oedd y dramâu a lwyfannwyd gan grŵp crwydrol o berfformwyr, o’r enw ‘actorion crwydrol’. Roedd y dramâu a gynhyrchwyd gan y grwpiau hyn yn bell o fod yn grefyddol a cheisiodd yr awdurdodau eu gwahardd.
Y themâu mewn dramâu yn ystod teyrnasiad Elisabeth a dechreuodd dramodwyr lunio comedïau a thrasiedïau. Erbyn diwedd ei theyrnasiad, roedd dramodwyr fel Marlowe, Johnson a Shakespeare yn ysgrifennu’r dramâu y maent yn enwog amdanyn nhw erbyn hyn.
Wrth i wylio dramâu ddod yn fwy poblogaidd, adeiladwyd theatrau yn hytrach na defnyddio iardiau tafarndai. Arweiniodd poblogrwydd y dramâu llwyfan at adeiladu theatrau’r Rose, Swan a’r Globe yn Llundain rhwng 1587 a 1598.

Prif nodweddion theatr oes Elisabeth
- Roedd y theatr yn agored a byddai’n rhaid i ddramâu gael eu perfformio yn ystod oriau’r dydd.
- Byddai baner yn cael ei chwifio o dop y theatr er mwyn dangos bod drama yn mynd i gael ei pherfformio.
- Roedd pobl yn eistedd o amgylch y llwyfan mewn galerïau.
- Y lle rhataf oedd o flaen y llwyfan lle byddai’r bobl gyffredin yn sefyll. Roedd rhain yn cael eu galw’n ‘sefyllwyr’.
- Nid oedd llawer o setiau – byddai cymeriad yn dweud wrth y gynulleidfa ble roedd yr olygfa wedi’i lleoli.
- Byddai rhannau menywod yn cael eu chwarae gan ddynion.
- Roedd areithiau hir yn rhoi cyfle i actorion newid eu dillad.
- Yn gyffredinol, roedd digon o drais yn y dramâu – roedd cynulleidfaoedd oes y Tuduriaid wrth eu bodd!