Sut mae lleihau’r risg o gael firws?
Mae’n bosibl atal firwsRhaglen fach sydd wedi’i hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. drwy gymryd rhagofalon synhwyrol, gan gynnwys:
- cadw dy system weithreduY feddalwedd sy’n rheoli’r adnoddau caledwedd a meddalwedd mewn system gyfrifiadurol. yn gyfredol
- defnyddio meddalwedd gwrthfirwsMae meddalwedd gwrthfirws yn sganio dyfeisiau storio o bob math am firysau (rhaglenni sy’n gallu achosi niwed i gyfrifiaduron). Os yw’r feddalwedd yn dod o hyd i firysau mae’n ceisio cael gwared arnynt. gyfredol
- peidio ag agor atodiadFfeil sy’n cael ei hanfon gydag ebost. ebost os nad wyt ti’n ei ddisgwyl ac yn gwybod o ble mae wedi dod (mae llawer o gweinyddCyfrifiadur sy’n cadw data i’w rhannu â chyfrifiaduron eraill. Mae gweinydd gwe yn storio ac yn rhannu gwefannau. ebost yn sganio ebyst â meddalwedd gwrthfirws ar ran y defnyddiwr)
- peidio â gadael i ddefnyddwyr eraill ddefnyddio eu cof bachDyfais storio gludadwy maint bawd sy’n cael ei defnyddio’n bennaf i drosglwyddo ffeiliau rhwng cyfrifiaduron. ar dy system
- llwytho i lawrCopïo ffeil o’r rhyngrwyd i gyfrifiadur neu ddyfais. o wefannau cyfrifol yn unig
- osgoi meddalwedd o ffynonellau annibynadwy
Mae meddalwedd gwrthfirws yn gallu archwilio ffeiliau cyfrifiadurol ac atodiadau ebost i edrych am firysau, a dileu unrhyw rai mae’n dod o hyd iddyn nhw neu eu rhoi mewn cwarantin.
Mae’n ymarfer da i wneud copi wrth gefnCopi o ffeiliau pwysig sy’n cael ei gadw ar wahân rhag ofn i’r ffeiliau gwreiddiol gael eu colli neu eu niweidio. o dy dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. yn rheolaidd. Os bydd firws yn achosi niwed i dy ddata, galli adferY broses o gael ffeiliau sydd wedi’u colli neu eu niweidio yn ôl o gopi wrth gefn. y ffeiliau sydd wedi’u niweidio o gopi wrth gefn.