Firysau
Mae firysau’n cael eu hysgrifennu gan raglenwyr maleisus sydd eisiau achosi problemau i bobl eraill sy’n defnyddio cyfrifiaduron.
Y brif ffynhonnell heintio y dyddiau hyn yw atodiadFfeil sy’n cael ei hanfon gydag ebost.ebostPost electronig. Dull o anfon negeseuon a ffeiliau at bobl eraill.. Ffynonellau eraill yw meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol.anghyfreithlon a ffeiliau wedi’u heintio o’r rhyngrwydRhwydwaith byd-eang sy’n cysylltu miliynau o gyfrifiaduron.. Os wyt ti wedi gosod meddalwedd gwrthfirwsMae meddalwedd gwrthfirws yn sganio dyfeisiau storio o bob math am firysau (rhaglenni sy’n gallu achosi niwed i gyfrifiaduron). Os yw’r feddalwedd yn dod o hyd i firysau mae’n ceisio cael gwared arnynt., a bod y feddalwedd yn gyfredol, byddi’n cael rhybudd ar unwaith ynglŷn ag unrhyw haint. Os nad oes gennyt feddalwedd gwrthfirws, fel arfer does dim tystiolaeth o’r firws. Ni fydd y defnyddiwr yn ymwybodol ohono nes bydd rhywbeth yn mynd o’i le.