HydoddeddEffaith tymheredd ar hydoddedd

Mae'r testun hwn yn sôn am sut mae dŵr yn gweithredu fel hydoddydd, ac am gyfrifiadau sy'n ymwneud â hydoddedd cyfansoddion mewn dŵr.

Part ofCemegDŵr

Effaith tymheredd ar hydoddedd

Yn gyffredinol, mae solidau’n mynd yn fwywrth i’r tymheredd gynyddu. Dyma pam mae siwgr yn hydoddi’n well mewn dŵr poeth nag mewn dŵr oer. Mae’r tabl yn dangos tair enghraifft o hydoddedd (g o hydoddyn i bob 100 g o ddŵr) sylweddau ar wahanol dymereddau.

20°C30°C40°C
Plwm(II) nitrad54.363.472.1
Potasiwm nitrad31.645.863.9
Sodiwm clorid35.936.136.4
Plwm(II) nitrad
20°C54.3
30°C63.4
40°C72.1
Potasiwm nitrad
20°C31.6
30°C45.8
40°C63.9
Sodiwm clorid
20°C35.9
30°C36.1
40°C36.4

Cromliniau hydoddedd

Mae gan bob hydoddyn hydoddedd penodol ar dymheredd ystafell. Fodd bynnag, mae hydoddedd hydoddyn yn newid wrth i dymheredd y dŵr newid. Gallwn ni ddefnyddio cromlin hydoddedd i ddangos hydoddedd sylwedd mewn dŵr ar wahanol dymereddau. Gallwn ni ddefnyddio cromliniau hydoddedd i ganfod màs grisialau sy’n ffurfio wrth oeri hydoddiant.

Graff yn dangos cromliniau hydoddedd potasiwm nitrad, plwm(II) nitrad, a sodiwm clorid.

Mae hydoddedd pob hydoddyn yn amrywio gyda thymheredd, ac mae’r newid hydoddedd gyda thymheredd yn dibynnu ar yr hydoddyn.

Mae’r cromliniau’n dangos:

  • bod hydoddedd pob un o’r tri hydoddyn yn cynyddu wrth i’r tymheredd gynyddu
  • mai hydoddedd potasiwm nitrad sy’n cynyddu fwyaf o tua 30 g i bob 100 g o ddŵr i dros 200 g i bob 100 g o ddŵr
  • nad yw hydoddedd sodiwm clorid yn newid llawer o gwbl
  • bod sodiwm clorid a phlwm(II) nitrad yn fwy hydawdd na photasiwm nitrad ar dymheredd isel
  • bod hydoddedd plwm(II) nitrad a photasiwm nitrad yr un fath ar tua 50°C (tuag 80 g i bob 100 g o ddŵr, sef lle mae cromliniau hydoddedd y sylweddau hyn yn croesi)
  • bod hydoddedd sodiwm clorid a photasiwm nitrad yr un fath ar tua 23°C (tua 38 g i bob 100 g o ddŵr, sef lle mae cromliniau hydoddedd y sylweddau hyn yn croesi)

More guides on this topic