Mae indecsau’n ffordd o gynrychioli rhifau a llythrennau sydd wedi eu lluosi â’u hunain nifer o weithiau. Maen nhw’n ei gwneud yn haws i ni ddatrys problemau sy’n cynnwys pwerau.
Yma, mae gennyn ni gyfuniad o ddau fath gwahanol o bwerau – pwerau negatif a phwerau ffracsiynol. Os wnawn ni ymdrin â’r negatif yn y pŵer i gychwyn, yna gallwn weithio gyda’r ffracsiwn.