Ffyrdd o fyw gwrthgyferbyniol y tlawd a’r cyfoethog
Ffordd o fyw y cyfoethog
Cartrefi
Roedd y cyfoethog yn awyddus i ddangos eu cyfoeth a’u statws cymdeithasol. O ganlyniad i’r cyfoeth hyn a’r ffordd ei bod hi’n gyfnod mwy heddychlon, dechreuwyd adeiladu plastai urddasol i fyw ynddyn nhw. Roedd diddymu'r mynachlogyddCaeodd Harri VIII pob mynachlog yng Nghymru a Lloegr rhwng 1536 a 1541. Gwerthwyd eu holl dir ac adeiladau. wedi rhyddhau ardaloedd mawr o dir ar gyfer y cyfoethog. Yn aml iawn, daeth yr arian i adeiladu’r tai hyn o’r rhenti a dalwyd am dir.
Galwyd y cyfnod hwn yn ‘oes yr ail-adeiladu mawr’ a sbardunwyd yn rhannol gan gylchdeithiau’r Frenhines, a chreu awydd ymhlith y cyfoethog i ddangos eu tai ar eu gorau. Roedd gan y plastai hyn nifer o ystafelloedd a rhoddwyd cryn dipyn o sylw i’r gwaith addurno.
Roedd y plastai hyn yn nodedig oherwydd bod ganddyn nhw nifer o ffenestri (eitem foethus drudfawr), gwaith pren cain a thapestrïau cyfoethog. Roedd gan bobl gyfoethog fwy o amser hamdden a chynlluniwyd gerddi godidog oedd wedi’u tirlunio.
Cafodd rhai eu cynllunio yn siâp llythyren ‘E’ neu ‘H’, ac yn gymesur o ran patrwm. Enghreifftiau enwog o blastai oes Elisabeth yw Longleat House, Hardwick Hall a Burghley House.

Dillad a ffasiwn
Roedd dillad hefyd yn amrywio cryn dipyn rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Byddai pobl gyfoethog oes Elisabeth yn prynu dillad drud wedi’u gwneud o ddeunyddiau moethus. Roedd ffasiwn yn bwysig iawn yn y Llys Brenhinol a byddai gwŷr y llys yn aml yn gwario arian sylweddol ar eu dillad.
I’r dosbarth canol, roedd ffasiwn yn cael ei fesur yn nhermau ansawdd y defnydd, yn hytrach na’r toriad neu’r lliw. Roedd y dillad roeddech yn eu gwisgo yn adlewyrchu eich statws cymdeithasol. Pasiwyd Deddfau CyfynguDyma’r cyfreithiau oedd yn rheoleiddio beth oedd y dosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn cael gwisgo., fel bod pobl ddim yn gwisgo dillad uwchlaw eu statws cymdeithasol.
Addysg
Byddai plant uchelwyr yn cael eu dysgu’n aml gan diwtoriaid yn eu cartrefi. Byddai bechgyn o gefndiroedd llai bonheddig rhwng 7 i 14 oed yn mynychu Ysgolion Gramadeg, cyn mynd i brifysgol yn Rhydychen, Caergrawnt neu Lundain.
Ffordd o fyw y tlawd
Serch hynny, roedd bywyd y tlawd yn anodd iawn. Roedd labrwyrPobl oedd yn gwneud gwaith di-sgil neu’n defnyddio eu dwylo., sef mwyafrif y boblogaeth, yn dal i fyw mewn cytiau ag un ystafell ac un llawr. Roedd cynllun y cytiau hyn heb newid rhyw lawer ers y canol oesoedd. Gan amlaf, roedden nhw’n llawn mwg gyda ffenestri agored a chrochan dros y tân i goginio.
Byddai’r tai hyn yn brin o ddodrefn, gwely, bwrdd ac ambell gadair o bosib. Efallai y byddai rhai, er enghraifft, crefftwr medrus neu ffermwyr bach, yn gallu casglu digon o arian i adeiladu tŷ mwy parhaol.
Byddai’r diwrnodau gwaith yn hir i ffermwyr tenant a labrwyr – o tua 05:00 tan 17:00. Roedd yr ychydig ddillad oedd gan y tlawd yn ymarferol yn hytrach na ffasiynol. Roedd disgwyliad oes yn fyr a byddai nifer o blant ddim yn byw’n hirach na phump oed. Roedd y tlodi ymhlith y bobl hyn yn enbyd.