Diffiniad o wybodaeth
Gwybodaeth = Data sydd wedi cael eu prosesu gan gyfrifiadur er mwyn iddyn nhw wneud synnwyr. Mae gwybodaeth yn rhoi ystyr i ddata.
Er enghraifft, edrych ar yr eitemau data hyn o’r dudalen flaenorol:
- 42
- cwningod
- 16:00
- 76
- afalau
- 09743245530
- £40
- glan y môr
Pan maen nhw’n cael eu defnyddio i ffurfio rhan o frawddeg maen nhw’n cael ystyr:
- mae yna 42 o afalau yn y bocs yna ac mae cwningod wedi cymryd darn bach o bob un ohonyn nhw
- pris tocyn i lan y môr yw £40 ac mae’r daith yn cymryd 76 munud ar y trên
- fy rhif ffôn yw 09743245530. Ffonia fi am 16:00.
Dyma beth yw gwybodaeth - data wedi’u rhoi mewn cyd-destun.