Diffiniad o ddata
Data = ffeithiau a ffigurau crai sy’n gwneud dim synnwyr neu sy’n golygu dim.
Dyma restr o eitemau data:
- 42
- cwningod
- 16:00
- 76
- afalau
- 09743245530
- £40
- glan y môr
Mae angen i eitemau data fod yn rhan o strwythur, er enghraifft brawddeg, er mwyn rhoi ystyr iddyn nhw.