Siapiau 3DLlunio siapiau 3D ar bapur isometrig

Mae gan siapiau 3D solid dri dimensiwn – hyd, lled a dyfnder. Enw’r siâp wedi ei agor allan ydy’r rhwyd. Mae gan brismau drawstoriad cyson, tra bod gan byramidiau ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.

Part ofMathemategSiapiau

Llunio siapiau 3D ar bapur isometrig

Gallwn ni ddefnyddio papur isometrig i lunio siapiau \({3D}\):

Lluniad ciwb isometrig

Lluniwyd y ciwb \({6}~cm\times{6}~cm\times{6}~cm\) hwn gan ddefnyddio’r dotiau fel canllaw. Mae’r llinellau fertigol bob amser yn fertigol ond mae’r llinellau llorweddol yn cael eu tynnu ar onglau.

Cymer ddarn o bapur isometrig a rho gynnig ar lunio’r ciwb dy hun.

Enghraifft

Defnyddia bapur isometrig i lunio ciwboid â’i hyd yn \({11~cm}\), ei led yn \({6}~cm\) a’i uchder yn \({4}~cm\). Clicia drwy’r sioe sleidiau isod i weld sut i lunio ciwboid â’r dimensiynau hyn.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 9, Rhwyd ciwboid anghywir, Sut i lunio ciwboid

More guides on this topic