Siapiau 3DSiapiau solid

Mae gan siapiau 3D solid dri dimensiwn – hyd, lled a dyfnder. Enw’r siâp wedi ei agor allan ydy’r rhwyd. Mae gan brismau drawstoriad cyson, tra bod gan byramidiau ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.

Part ofMathemategSiapiau

Siapiau solid

Dylet ti wybod enwau’r solidau isod.

Diagram siâp 3D

Prismau a phyramidiau

Prism ydy siâp \({3D}\) sydd â thrawstoriad cyson – mae dau ben y solid yr un siâp, a lle bynnag rwyt ti’n ei dorri yn baralel â’r ddau ben fe gei di’r un siâp hefyd.

Prism chweonglog
Trawstoriad chweonglog

Mae gan byramid ochrau goleddol sy’n cwrdd ar bwynt.

Pyramid sgwâr
Pyramid trionglog

More guides on this topic