CanrannauYsgrifennu un rhif fel canran o rif arall

Ystyr ‘canran’ ydy ‘y cant’. Os ydy 70 y cant o’r boblogaeth yn berchen ar anifail anwes, mae hynny’n golygu bod 70 o bob cant o bobl yn berchen ar anifail anwes. Ystyr y symbol ‘%’ ydy ‘y cant’.

Part ofMathemategCanrannau

Ysgrifennu un rhif fel canran o rif arall

Question

Ffrog â thocyn ‘gostyngiad £10’

Mae ffrog, a gostiai \(\pounds{80}\) yn wreiddiol, \(\pounds{10}\) yn rhatach yn y sêl. Pa ganran o ostyngiad ydy hyn?

Question

Mae gan dîm nofio \({20}\) o aelodau ac mae \({12}\) o’r rhain yn fechgyn. Pa ganran o’r tîm nofio sy’n fechgyn?