CanrannauCanran o swm

Ystyr ‘canran’ ydy ‘y cant’. Os ydy 70 y cant o’r boblogaeth yn berchen ar anifail anwes, mae hynny’n golygu bod 70 o bob cant o bobl yn berchen ar anifail anwes. Ystyr y symbol ‘%’ ydy ‘y cant’.

Part ofMathemategCanrannau

Canran o swm

Mae gallu canfod canran swm yn aml yn ddefnyddiol. Er enghraifft, rwyt ti'n cael gwybod bod pris tocyn bws yn codi \({5}\%\) ac rwyt ti eisiau gwybod faint o arian fydd ei angen arnat ti bob wythnos.

Dyma ddwy ffordd o wneud hyn:

Canfod \({1}\%\) o’r swm drwy ei rannu â \({100}\).

Canfod \({x}\%\) o’r swm drwy luosi \({1}\%\) o’r swm ag \({x}\).

Dull 1

Question

Mae gan Robin flwch sy’n dal \({60}\) beiro. Mae \({20}\%\) o’r beiros yn goch. Faint ydy hynny?

Question

Mewn dosbarth o \({25}\) o ddisgyblion, mae \({24}\%\) yn byw mewn fflat. Sawl disgybl sy’n byw mewn fflat?

Dull 2

Canfod \({x}\%\) o swm drwy luosi’r swm hwnnw ag \(\frac{x}{100}\)

Mae hyn yn cyfuno’r rhannu a’r lluosi o ddull \({1}\) mewn un swm.

Question

Y llynedd enillodd Sali gyflog o \(\pounds{20,000}\). Eleni mae hi wedi cael codiad cyflog o \({8}\%\).

a) Faint yn fwy o arian y mae Sali’n ei ennill?

b) Beth ydy ei chyflog newydd?