Archebu ar-lein
Mae archebu ar-lein hefyd ar gynnydd. Mae tocynnau theatr, sinema, cyngherddau, awyrennau a threnau, ystafelloedd mewn gwestai a gwyliau pecyn i gyd ar gael ar y we, yn aml am bris is nag yn siopau’r stryd fawr. Mae’n bosibl archebu nwyddau o unrhyw ran o’r byd drwy gysylltiad rhyngrwyd.
Manteision
- gweld beth sydd ar gael ar unwaith
- archebu y tu allan i oriau swyddfa
- talu a derbyn cadarnhad (drwy ebost) ar unwaith
- prisiau is – mae mynediad at fwy o adwerthwyr yn cynyddu cystadleuaeth ac mae prisiau’n gostwng
Anfanteision
- risg prynu o wefan sydd wedi ei sefydlu er mwyn sgamio arian gan gwsmeriaid, hynny yw, dyw’r tocynnau byth yn cyrraedd
- hyd yn oed wrth brynu drwy wefan go iawn, mae’n bosibl na fydd y tocynnau’n cyrraedd drwy’r post mewn pryd (pan nad oes modd defnyddio ebost cadarnhau)
- mae’n bosibl na fydd gwefannau’n gallu dygymod â galw uchel (mae hyn yn eu gwneud yn anhygyrch)