Busnes cartrefSiopa ar-lein

Mae TGCh yn cael ei ddefnyddio fwy a mwy ar gyfer archebu ar-lein a siopa ar-lein. Mae nifer o fanteision ac anfanteision.

Part ofTGChBusnes cartref

Siopa ar-lein

Cwsmer yn siopa ar-lein a pharsel wedi’i ddewis y tu ôl i’r ddesg.

Mae bron iawn bob peth sydd ar gael ar y stryd fawr, neu mewn canolfan siopa, i’w gael ar-lein hefyd. Er enghraifft, mae archfarchnadoedd yn cynnig danfon nwyddau mae pobl yn eu harchebu drwy eu gwefan i’w cartrefi.

Mae prynu eitemau digidol a’u llwytho i lawr yn gyffredin heddiw hefyd. Mae eitemau a oedd yn arfer cael eu gwerthu ar ffurf cyfryngau ffisegol (CDs, DVDs, llyfrau) erbyn hyn yn cael eu llwytho i lawr yn syth i gyfrifiadur neu ddyfais llaw cwsmer.

Prynu nwyddau ar-lein

Mae’r broses o brynu nwyddau ar-lein fel arfer yn cynnwys:

  1. pori drwy gatalog ar-lein
  2. rhoi eitemau mewn rhithfasged
  3. mynd i rith fan talu
  4. dewis dull talu a danfon
  5. cadarnhau archeb
  6. cadarnhau cludiant (drwy ebost neu SMS)

Manteision

  • Hwylustod - siopa o unrhyw gyfrifiadur sydd â chysylltiad rhyngrwyd unrhyw bryd a does dim angen teithio, talu am barcio, ciwio yn y siop, ac yn y blaen.
  • Mwy o amrywiaeth - mwy o siopau ar-lein nag sydd ar unrhyw stryd fawr neu mewn unrhyw ganolfan siopa.
  • Nwyddau rhatach - mae mwy o gystadleuaeth rhwng adwerthwyr (ar raddfa fyd-eang weithiau) yn dod â phrisiau i lawr.
  • Hygyrchedd - gall pobl sydd ag anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i symud ddewis cael nwyddau wedi’u danfon i’w cartrefi.
  • Cymharu - drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd mae’n hawdd ymchwilio’n drylwyr iawn i gynnyrch neu wasanaethau, gan gymharu prisiau a manylion cynnyrch er mwyn cael y fargen orau.

Anfanteision

  • Pryderon yn ymwneud â diogelwch wrth dalu â cherdyn credyd dros y rhyngrwyd.
  • Dim cyfle i archwilio’r nwyddau’n ffisegol cyn prynu.
  • Nwyddau’n cael eu difrodi wrth gael eu cludo.
  • Nwyddau ddim yn cyrraedd mewn pryd, neu ddim yn cyrraedd o gwbl.
  • Pryderon ynglŷn â pha wybodaeth mae adwerthwyr yn eu cadw am gwsmeriaid, er enghraifft arferion prynu.