Rhyfela – 19eg, 20fed a'r 21ain ganrif
Mae menywod wastad wedi chwarae eu rhan mewn rhyfeloedd, weithiau’n ymladd ond gan amlaf yn cefnogi’r milwyr. Dangoswyd hynny gan un nyrs enwog o Gymru Betsi Cadwaladr yn Rhyfel y Crimea rhwng 1853 a 1855.
O’r 19eg ganrif, arweiniodd diwydiannuPan mae economi’r wlad yn symud o amaethyddiaeth i ddiwydiant. at newidiadau sylweddol mewn rhyfela. Roedd hi’n haws cynhyrchu arfau bach, fel reiffls, a allai gael eu defnyddio gan filwyr gymharol ddibrofiad, gan arwain at gynyddu’r defnydd o gonsgripsiwn. Yn lle’r gwŷr traed, cyflwynwyd gwŷr ar gefn ceffyl, ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) daeth y defnydd o gynnau maesGynnau mawr trwm a ddefnyddiwyd adeg rhyfel. yn gyffredin i gefnogi milwyr.
Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd
Roedd rhyfela o’r ffosydd yn her fawr i dactegau milwrol yn ystod y cyfnod hwn, gan fod drylliau peiriannol, ymosodiadau nwy a’r defnydd o awyrennau, wedi arwain at golledion erchyll a digynsail. Serch hynny, arweiniodd y defnydd o danciau adeg Brwydr y Somme (1 Gorffennaf-18 Tachwedd 1916) at ddulliau rhyfela mwy technolegol a symudol.
Dangosodd y Rhyfel Byd Cyntaf effeithiolrwydd propaganda a chonsgripsiwn wrth gynnull byddinoedd a chynnal morâlPa mor hyderus, brwdfrydig a phositif y mae person neu grŵp o bobl yn teimlo.. Erbyn yr Ail Ryfel Byd (1939-1945), roedd yr ymdrech gynhyrchu anferthol yn cynnwys y genedl gyfan yn yr hyn a elwir yn rhyfel diarbed. Cynyddwyd rôl uniongyrchol a dioddefaint y boblogaeth sifil wrth i fomio o’r awyr ddod yn ddull rhyfela cyfarwydd, yn enwedig yn ystod Brwydr Prydain (1940) a’r Blitz (1940-1941).
Yn ystod y ddau ryfel byd, profwyd bod menywod yn gaffaeliad mawr i’r ymdrech ryfel, gan ddod yn lle dynion yn y ffatrïoedd arfau rhyfel ac ar ffermydd, ac yn parhau i gefnogi’r milwyr fel negeswyr, gweinyddwyr a staff meddygol.
Datblygiadau ar ôl yr Ail Ryfel Byd
Yn 1945, dechreuodd UDA gyfnod o ryfela modern gyda’i ymosodiadau atomig ar Hiroshima a Nagasaki yn Japan. Ar ôl 1947, arweiniodd tensiynau rhwng UDA a’r Undeb Sofietaidd, sef y Rhyfel Oer, at y posibilrwydd brawychus o ryfel niwclear. Parhaodd arfau technoleg uchel i gael eu datblygu, gydag awyrennau, taflegrau a systemau tracio a lansio cyfrifiadurol yn gyffredin tuag at ddiwedd yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif.
Erbyn hyn, mae byddinoedd sefydlog gan bob gwlad bron iawn – byddinoedd sydd wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n dda. Er hynny, pan drechwyd America yn Fietnam yn y 1960au a’r 1970au, dangosodd:
- y gallai rhyfel gerilaPan fydd byddin yn defnyddio tactegau ‘taro a ffoi’, a ddefnyddir gan amlaf gan fyddin llai i ymosod ar fyddin mwy. fod yn effeithiol yn erbyn byddinoedd mawr pwerus
- bod rhyfeloedd amhoblogaidd yn anoddach i’w cynnal
- bod y cyfryngau yn chwarae rôl wrth drosglwyddo gwybodaeth fanwl i’r cyhoedd, sy’n golygu bod propaganda yn anoddach i’w ddefnyddio er mwyn plesio’r cyhoedd
Erbyn hyn, mae rhyfela yn datblygu’n gyflym gyda thechnoleg newydd fel dronau a thaflegrau yn gallu lansio ymosodiadau hynod o fanwl a lleihau nifer y meirw. Ar y môr, mae llongau tanfor a llongau awyrennau soffistigedig wedi dod yn lle’r llongau rhyfel mwy traddodiadol, gan fod yr angen am frwydrau morwrol wedi lleihau. Ar y tir, mae’n annhebygol y byddwn yn dychwelyd at y dulliau cynharaf o ryfela, gyda byddinoedd anferthol yn wynebu ei gilydd. Yn hytrach, mae technoleg loeren yn golygu y gall rhyfeloedd modern gael eu hymladd o bell. Mae’r frwydr yn erbyn gelynion y dyfodol yn debygol o ganolbwyntio’n fwyfwy ar ganfod a chael gwared ar fygythiadau terfysgwrRhywun sy’n defnyddio trais am resymau gwleidyddol, er mwyn lledaenu ofn gan amlaf. – sy’n wrthgyferbyniad llwyr â dulliau ymladd y canrifoedd blaenorol.