Rhyfela – 16eg, 17eg a'r 18fed ganrif
Yn ystod oes y Tuduriaid, byddai byddinoedd yn cael eu creu gan frenhinoedd neu freninesau yn ôl yr angen. Bydden nhw’n comisiynuY cyfrifoldeb o wneud rhywbeth i’r brenin neu frenhines. eu huchelwyr i ddod o hyd i ddynion lleol i ymladd.
Yn yr oes hon o fforioY weithred o chwilio neu edrych am dir., roedd teithio ar y môr i wledydd hen a newydd yn bosib oherwydd gwelliannau ym maint a phŵer y llongau. Roedd cadw rheolaeth ar y môr yn hanfodol. Er bod y llynges yng nghyfnod y Tuduriaid wedi cael buddugoliaeth fawr dros Armada Sbaen yn 1588 drwy ddefnyddio gynnau mewn ffordd arloesol, dim ond yng nghanol yr 17eg ganrif y daeth grym Prydain ar y môr i’r amlwg.
Y datblygiad mwyaf yn ystod y cyfnod hwn oedd y defnydd o bowdwr gwn, a arweiniodd at ostyngiad yn nifer y cestyll a adeiladwyd erbyn yr 16eg ganrif. Roedd hefyd yn golygu bod mysgedau a chanonau yn gyffredin mewn rhyfela, ac arweiniodd hynny at ddirywiad y marchogluMilwyr oedd yn ymladd ar gefn ceffyl. ar faes y gad.
Yn ystod Rhyfel Cartref y 1640au, cyflwynodd Byddin Model Newydd Cromwell fodel ar gyfer byddin broffesiynol fodern gyda 50,000 o filwyr proffesiynol llawn amser, gan ddangos gwerth disgyblaeth ac offer gwell i lwyddiant milwrol.
Arweiniodd datblygiad adnoddau a sgiliau’r Llynges Frenhinol at fuddugoliaeth dyngedfennol yn erbyn y Ffrancod ym Mrwydr Trafalgar yn 1805. Nid oedd pob un o’r morwyr wedi ymuno o’u gwirfodd, a chafodd y broses o recriwtio ar gyfer y llynges ei nodweddu gan y defnydd o’r prèsHefyd yn cael ei alw’n orfodaeth, sef gorfodi dynion yn gorfforol i ymladd yn y fyddin neu’r llynges. o ganol yr 17eg ganrif ymlaen.