Candelas: AnifailAnifail

Mae cerddoriaeth roc yn derm cyffredinol sy’n berthnasol i nifer o genres cerddoriaeth gwahanol, a’r rheini wedi datblygu ers cyfnod roc a rôl yn yr 1950au. Mae’r trac Anifail gan y band Candelas yn enghraifft o gân roc.

Part ofCerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Anifail

Ed Holden - neu Mr Phormula - yn trafod nodweddion cerddoriaeth roc, ac yn dadansoddi’r trac 'Anifail' gan Candelas

Mae’r gân Anifail yn ymddangos ar albwm cyntaf Candelas - Candelas - a gafodd ei ryddhau yn 2013.

Er bod y teitl yn awgrymu ei bod hi’n gân am anifeiliaid, mae’r geiriau’n sy’n rhybuddio sut mae rhai pobl yn gallu ymddwyn pan fyddan nhw’n mynd allan am y noson, gan awgrymu eu bod nhw’n troi’n anifeiliaid.

Cywair

Mae’r gân wedi’i hysgrifennu yng nghywair E leiaf.

Gwead

Mae’r gwead yn ac yn bennaf yn . Mae hyn yn nodweddiadol o gerddoriaeth roc a phop.

Offeryniaeth ac ansoddau

Mae gan Candelas batrwm band roc nodweddiadol, sef drymiau, gitarau, gitâr fas a chanwr. Mae’r gitâr yn chwarae cordiau wedi’u , yn enwedig yn rhannau’r gytgan, sy’n nodweddiadol o’r arddull gerddorol hon.

Tempo

Mae modd disgrifio’r tempo fel curiad roc cymharol fywiog gyda thempo roc 4/4 nodweddiadol.

Dynameg

Mae’r darn gan mwyaf yn , fel y rhan fwyaf o ganeuon roc, ac nid oes newid o bwys yn y ddynameg ar unrhyw adeg.

Adeiledd

Adeiledd pennill a chytgan sydd i’r gân, a yw’r enw ar hyn. Mae adeiledd cyfan Anifail fel hyn.

  1. Rhagarweiniad
  2. Pennill 1
  3. Cyn-gytgan
  4. Cytgan
  5. Pennill 2
  6. Cyn-gytgan
  7. Cytgan
  8. Unawd offerynnol
  9. Cyn-gytgan
  10. Cytgan/diweddglo offerynnol

Harmoni

Mae harmoni’r gân Anifail wedi’i seilio ar gitâr sy’n ailadrodd ac yn cael ei ddefnyddio drwy’r gân i gyd.

Y ríff gitâr sy’n ailadrodd ar y trac 'Anifail'

Mae’r gân yn defnyddio’r dilyniad cordiau Em-C-Bm yn y rhagarweiniad, y pennill a’r gytgan.

Mae modd clywed y dilyniad cordiau hwn yn glir yn y gytgan, lle mae’r ríff o’r rhagarweiniad yn cael ei ddefnyddio i yrru’r gerddoriaeth yn ei blaen.

Y dilyniad cordiau yng nghytgan 'Anifail'

Mae’r gytgan yn cael ei chyflwyno gan gyn-gytgan mewn cywair mwyaf, sy’n cynnwys a symudiad cromatig i greu cyferbyniad â’r brif gytgan sy’n dilyn.

Cyn-gytgan 'Anifail'

Mae cordiau pŵer – sef pan fydd trydydd y cord wedi’i hepgor – yn cael eu defnyddio yn y gân yma i greu sain gryf.

Enghraifft o gordiau pŵer yn 'Anifail'

More guides on this topic