Ongl allanol polygon
Mae’r ongl allanol ar fertig (cornel) siâp yn cael ei ffurfio drwy barhau un llinell ochr.
Swm yr onglau allanol
Mae onglau allanol polygon yn adio i \({360}^\circ\).
Dychmyga gerdded o amgylch tu allan y polygon. Erbyn i ti gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn byddi di wedi cwblhau un tro llawn. Felly mae’n rhaid bod pob cornel rwyt ti wedi ei throi yn adio â’i gilydd i wneud \({360}^\circ\).
Yn y diagram hwn mae’r onglau allanol wedi cael eu lliwio’n wahanol liwiau. Gelli di weld sut mae modd eu cyfuno i wneud cylch llawn.