Sut rydyn ni’n defnyddio asid sylffwrig, a’i beryglon
Mae’r rhan fwyaf o’r asid sylffwrig rydyn ni’n ei gynhyrchu’n cael ei ddefnyddio i wneud gwrteithiau. Yn aml, rydyn ni’n gwneud hyn drwy adweithio’r asid sylffwrig ag amonia, neu hydoddiant amoniwm hydrocsid, i wneud amoniwm sylffad, (NH4)2SO4.
amonia + asid sylffwrig → amoniwm sylffad
amoniwm hydrocsid + asid sylffwrig → amoniwm sylffad + dŵr
Rydyn ni hefyd yn defnyddio asid sylffwrig i gynhyrchu:
- glanedyddion
- paent
- llifynnau
- plastigion
- ffibrau artiffisial
Dydy sylffwr ddim yn cael ei ddarganfod yn y ddaear yn aml iawn. Amhuredd yw sylffwr, sy’n cael ei dynnu allan o danwyddau ffosil oherwydd mae’n achosi glaw asid pan fydd tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi.