Hylosgi hydrogen

Rydyn ni’n defnyddio hydrogen fel tanwydd ar gyfer rocedi a hefyd fel tanwydd ar gyfer celloedd tanwydd hydrogen mewn ceir. Mae’n llosgi mewn ocsigen i ffurfio dŵr.
hydrogen + ocsigen → dŵr
2H2 + O2 → 2H2O
Mae’r fflam bron yn ddi-liw. Mae cymysgeddau o hydrogen ac ocsigen - neu hydrogen ac aer - yn gallu bod yn ffrwydrol os oes cymhareb benodol o’r ddau nwy yn bresennol, felly rhaid bod yn ofalus iawn wrth drin hydrogen.
Mae llawer o bobl yn credu, gan nad yw llosgi hydrogen yn rhyddhau carbon deuocsid, y gallai hydrogen fod yn danwydd glân i’w ddefnyddio yn y dyfodol - i gymryd lle tanwydd ffosilTanwydd sydd wedi'i wneud o weddillion planhigion ac anifeiliaid hynafol, ee glo, olew a nwy naturiol. sy’n achosi cynhesu byd-eangY cynnydd yn nhymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear..
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r hydrogen rydyn ni’n ei ddefnyddio yn y byd yn dod o danwyddau ffosil, felly mae carbon deuocsid yn dal i gael ei ryddhau yn ystod y broses gyffredinol. Gallwn ni ffurfio hydrogen drwy electroleiddio dŵr, ond mae hyn yn defnyddio llawer o egni trydanol. Mae hefyd yn nwy fflamadwy iawn ac mae’n gallu ffrwydro, sy’n golygu y gallai fod yn fwy peryglus na thanwyddau olew.
Gan fod hydrogen yn nwy, mae’n rhaid ei oeri a’i gywasgu i’w droi’n hylif er mwyn ei storio. Rhaid i’r tanciau storio fod yn eithriadol o gryf i wrthsefyll y gwasgedd uchel a rhaid eu hynysu nhw hefyd i’w gadw’n oer. Rhaid ei gadw o gwmpas -250°C. Mae hyn yn golygu ei fod yn llawer anoddach a drutach i’w storio a’i gludo na thanwyddau hylifol, fel petrol neu ddiesel.