Ysgrifennu cyfarwyddiadau
Iaith ac arddull cyfarwyddiadau
- Rhaid bod yn drefnus a nodi’r cyfarwyddiadau mewn trefn cronolegolTrefn resymegol digwyddiadau o'r dechrau i'r canol i'r diwedd..
- Rhaid symud o gam i gam yn ofalus.
- Rhaid i ti gymryd yn ganiataol nad yw’r person sy’n darllen yn gwybod unrhywbeth am y pwnc.
- Mae angen i ti ddefnyddio gorchmynion mewn cyfarwyddiadau.
- Rhaid ystyried y gynulleidfa – wyt ti’n siarad ag un person/mwy nag un?
Question
Llenwa'r bylchau yn y tabl isod:
| Unigol | Lluosog |
| Gwranda | |
| Rhowch | |
| Cer/Dos | |
| Ystyria | |
| Cerddwch |
| Unigol | Gwranda |
|---|---|
| Lluosog |
| Unigol | |
|---|---|
| Lluosog | Rhowch |
| Unigol | Cer/Dos |
|---|---|
| Lluosog |
| Unigol | Ystyria |
|---|---|
| Lluosog |
| Unigol | |
|---|---|
| Lluosog | Cerddwch |
| Unigol | Lluosog |
| Gwranda | Gwrandewch |
| Rho | Rhowch |
| Cer/Dos | Ewch |
| Ystyria | Ystyriwch |
| Cerdda | Cerddwch |
| Unigol | Gwranda |
|---|---|
| Lluosog | Gwrandewch |
| Unigol | Rho |
|---|---|
| Lluosog | Rhowch |
| Unigol | Cer/Dos |
|---|---|
| Lluosog | Ewch |
| Unigol | Ystyria |
|---|---|
| Lluosog | Ystyriwch |
| Unigol | Cerdda |
|---|---|
| Lluosog | Cerddwch |
Dyma enghraifft dda o gyfarwyddiadau teithio:
Wrth y gylchfan gyntaf (ar ôl tua 1.1 milltir) ewch yn syth ymlaen (sef yr ail allanfa - nid yw'r fynedfa gyntaf yn ffordd drwodd) gan fynd ymlaen am y gorllewin. Ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd sydd â goleuadau traffig (Ffatri Visteon ar y dde). Ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd nesaf sydd â goleuadau traffig (Dociau Abertawe ar y chwith a maes Parcio a Theithio i'r dde - 3.8 milltir). Ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd sydd â goleuadau traffig, dros y bont dros Afon Tawe (A4067) ar gyffiniau deheuol canol y ddinas (4.6 milltir).
Geirfa ddefnyddiol i nodi trefn ac amser:
- yn gyntaf
- yn ail
- wedyn
- nesaf
- ar ôl
- tra