CyfarwyddiadolYsgrifennu rheolau

Mae’r canllaw hwn yn nodi beth yw pwrpas testunau cyfarwyddiadol ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part ofCymraegYsgrifennu

Ysgrifennu rheolau

Rydym yn ysgrifennu rheolau er mwyn nodi beth sydd yn dderbyniol neu’n annerbyniol. Mae angen rheolau pendant er mwyn sicrhau trefn a diogelwch.

Iaith ac arddull rheolau

  • Mae rhaid i ti ddweud wrth y darllenydd beth maen nhw’n cael ei wneud neu ddim yn cael ei wneud.
  • Rhaid defnyddio berfau gorchmynnol.
  • Medri gynnwys rheolau cadarnhaol a gorchmynion negyddol.
  • Gan amlaf mae rheolau ar gyfer grŵp o bobl felly rhaid defnyddio’r ffurfiau lluosog.

Gorchmynion negyddol = paid â + treiglad llaes

Question

Cywira'r brawddegau isod:

Paid â cerdded ar yr ochr dde.

Peidiwch â torri’r rheolau.

Paid â crwydro heb ofyn.

More guides on this topic