Cyfieithu’r Ysgrythurau i’r Gymraeg
Roedd Protestaniaid yn credu ei bod hi’n bwysig i’r Beibl gael ei gyfieithu o’r Lladin i iaith y gallai pobl ei deall. Drwy ddeall beth oedd yn cael ei ddarllen yn yr eglwys, gallai pobl deimlo’n agosach at Dduw.
Roedd yr Eglwys Gatholig yn erbyn hyn oherwydd credwyd mai rôl yr offeiriad oedd arwain pobl mewn gweddi drwy ddefod yr Offeren.
Yng Nghymru, doedd y Beibl Saesneg ddim yn boblogaidd, gan fod y mwyafrif o Gymry yn siarad Cymraeg yn unig. Roedd hyn yn poeni Elisabeth oherwydd sylweddolodd na fyddai pobl Cymru yn derbyn ei Heglwys newydd o bosib, ac y gallai sbarduno gwrthryfelGwrthwynebiad torfol yn erbyn llywodraeth neu awdurdod..
Richard Davies a William Salesbury
Yn 1563, pasiodd y Senedd Deddf Cyfieithu’r Ysgrythurau i’r Gymraeg. Dau ysgolhaig Cymraeg, Richard Davies (Esgob Tyddewi) a William Salesbury, oedd yn gyfrifol am ddechrau’r broses a sicrhau bod y broses gyfieithu yn cael ei gwneud.
Davies oedd yn gyfrifol am berswadio’r Senedd i basio Deddf 1563, tra bod y gwaith cyfieithu yng ngofal Salesbury. Wedi’i addysgu yn Rhydychen a’i orfodi i guddio yn ystod teyrnasiad Mari, cafodd Salesbury gymorth Davies a Thomas Huet, Deon Tyddewi.
Dechreuwyd cyfieithu’r Testament Newydd o’r Groeg i’r Gymraeg ac yna cyfieithu’r Llyfr Gweddi Cyffredin. Cafodd y ddau eu cyhoeddi yn 1567, oedd yn golygu bod crefydd bellach ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf.
Esgob William Morgan
Yn ystod y 1570au, dechreuodd offeiriad ifanc, William Morgan, gyfieithu’r Hen Destament o’r Hebraeg i’r Gymraeg. Gwnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith hwn tra’n ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a chymerodd bron i 20 mlynedd.
Gorchmynnodd Elisabeth y dylai’r Beibl Cymraeg gael ei roi ym mhob eglwys yng Nghymru er mwyn i bawb sy’n siarad Cymraeg allu darllen a deall.
Roedd holl wasanaethau a gweddïau eglwysi Cymru am fod yn Gymraeg.
Effaith cyfieithu’r Beibl ar Gymru a’r Iaith Gymraeg
Roedd cyfieithiad Salesbury, er yn bwysig, yn gymharol anodd i’w ddarllen. Roedd Morgan, serch hynny, yn ysgrifennu mewn arddull llawer mwy dealladwy – ac yn agosach at Gymraeg llafar.
Roedd ei gyfieithiad yn bwysig dros ben i bobl Cymru ac i Elisabeth. Helpodd hyn Elisabeth gan fod nifer o Gymry bellach wedi troi’n ddinasyddion Protestannaidd oedd yn deyrngar i’r Frenhines. Roedd arwyddocâd diwylliannol cyfieithu’r Beibl hyd yn oed yn fwy.
Rhoddodd cyfieithu’r Beibl amlygrwydd mawr i’r Gymraeg, i’r graddau ei fod wedi diogelu’r iaith, y diwylliant a’r traddodiadau. Gallai cynulleidfaoedd ddeall beth oedd yn cael ei ddarllen ac atgyfnerthodd hynny eu defosiwn at grefydd. Drwyddi draw, roedd y cyfieithiad wedi:
- achub yr iaith Gymraeg rhag dirywio
- galluogi cynulleidfaoedd yng Nghymru i ddeall yr Ysgrythurau
- diogelu’r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru a sicrhau bod y Cymry yn deyrngar i Elisabeth
- annog datblygiad llenyddiaeth Gymraeg