Plotio a darllen diagramau gwasgariad
Darllen diagramau gwasgariad
Mae canlyniadau Cymraeg a mathemateg deg disgybl wedi eu dangos yn y tabl isod:
| Sali | Kim | Wil | Twm | Guto | Alex | Begw | Cen | Alan | Jo | |
| Marc mathemateg | \({20}\) | \({71}\) | \({60}\) | \({52}\) | \({80}\) | \({32}\) | \({47}\) | \({90}\) | \({49}\) | \({80}\) |
| Marc Cymraeg | \({30}\) | \({80}\) | \({65}\) | \({50}\) | \({81}\) | \({38}\) | \({40}\) | \({87}\) | \({55}\) | \({70}\) |
| Marc mathemateg | |
|---|---|
| Sali | \({20}\) |
| Kim | \({71}\) |
| Wil | \({60}\) |
| Twm | \({52}\) |
| Guto | \({80}\) |
| Alex | \({32}\) |
| Begw | \({47}\) |
| Cen | \({90}\) |
| Alan | \({49}\) |
| Jo | \({80}\) |
| Marc Cymraeg | |
|---|---|
| Sali | \({30}\) |
| Kim | \({80}\) |
| Wil | \({65}\) |
| Twm | \({50}\) |
| Guto | \({81}\) |
| Alex | \({38}\) |
| Begw | \({40}\) |
| Cen | \({87}\) |
| Alan | \({55}\) |
| Jo | \({70}\) |
I weld a oes cydberthyniad rhwng y marciau mathemateg a Chymraeg, gallet ti blotio diagram gwasgariad.
Mae’r marc mathemateg ar y raddfa lorweddol a’r marc Cymraeg cyfatebol ar y raddfa fertigol.
Marc mathemateg Wil oedd \({60}\) a’i farc Cymraeg oedd \({65}\), felly mae ei ganlyniadau wedi eu cynrychioli gan y pwynt porffor ar gyfesurynnau \(({60},~{65})\).
Image caption, Diagram gwasgariad enghreifftiol
Mae’r diagram yn dangos marciau mathemateg a Chymraeg.
Image caption, Diagram gwasgariad enghreifftiol
Mae’r pwynt yn dangos marc mathemateg 60 a marc Cymraeg 65.
Image caption, Diagram gwasgariad enghreifftiol
Mae’r llinellau’n dangos y pwyntiau o’r echelin at y cyfesuryn.
1 of 3
Question
Yn y diagram gwasgariad uchod, marc pwy sydd wedi ei gynrychioli gan y groes borffor?
Cyfesurynnau’r groes ydy \(({80},~{70})\).
Felly, \({80}\) ydy’r marc mathemateg a \({70}\) ydy’r marc Cymraeg.
Mae’r groes borffor yn cynrychioli marciau Jo.
Mae'r diagramau isod yn dangos sut gelli di ddehongli cydberthyniad gan ddibynnu ar batrwm y gwasgariad.
Cydberthyniad positif
Mae’r pwyntiau’n gorwedd yn agos at linell syth, sydd ar raddiant positif.
Mae hyn yn dangos, wrth i un newidyn gynyddu, bod y llall yn cynyddu.
Cydberthyniad negatif
Mae’r pwyntiau’n gorwedd yn agos at linell syth, sydd ar raddiant negatif.
Mae hyn yn dangos tra bod un newidyn yn cynyddu, y mae'r llall yn gostwng.
Dim cydberthyniad
Does dim patrwm i’r pwyntiau.
Mae hyn yn dangos nad oes cysylltiad rhwng y ddau newidyn.
Question
Fyddet ti’n disgwyl cael cydberthyniad positif, cydberthyniad negatif, neu ddim cydberthyniad rhwng y parau o newidynnau canlynol:
a) Tymheredd a gwerthiant hufen iâ
b) Taldra a deallusrwydd
a) Wrth i’r tymheredd godi, mae gwerthiant hufen iâ’n debygol o gynyddu hefyd. Felly, mae’n debyg y bydd cydberthyniad positif.
b) Mae’n annhebygol fod cysylltiad rhwng taldra a deallusrwydd. Felly, does dim cydberthyniad.