AnhafaleddauMwy am ddatrys anhafaleddau

Mewn hafaliad mae’r arwydd 'yn hafal i' yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath, bydd angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.

Part ofMathemategAnhafaleddau

Mwy am ddatrys anhafaleddau

Os ydy \(-{x}={4}\), yna fe wyddon ni fod \({x}=-{4}\), drwy luosi'r ddwy ochr â \({-1}\).

Dydy pethau ddim mor syml gydag anhafaliadau. Ystyria hyn:

\(-{3}\textless{4}\) = Cywir

Lluosi pob ochr â \({-1}\):

\({3}\textless-{4}\) = Anghywir

Mae lluosi â rhif negyddol yn newid cyfeiriad yr anhafaledd, felly:

\({3}\textgreater-{4}\) = Cywir

Datrysa: \({3}-{2x}\textgreater{11}\)

Tynna \({3}\) oddi wrth bob ochr: \(-{2x}\textgreater{11}-{3}\)

Felly: \(-{2x}\textgreater{8}\)

Rhanna bob ochr â \({-2}\) (rhannu â rhif negyddol, felly rhaid newid cyfeiriad yr anhafaledd)

\({x}\textless-{4}\)

Gallwn ni wirio hwn trwy ddewis rhif llai na \({-4}\) (ee \({-5}\)) a gweld os ydy’r anhafaledd gwreiddiol yn gywir:

\({3}-{2x}{(-{5})}={3}+{10}={13}\) ac mae hyn yn fwy nag \({11}\).

Question

Datrysa:

\({5}-{3x}\textless{17}\)

Question

Datrysa:

\({2x}-{8}\leq{6x}+{12}\)