Defnyddio anhafaleddau
Mewn hafaliad mae’r arwydd \(=\) yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond beth sy’n digwydd pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath? Mae angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.
- Mae \(\textless\) yn golygu ‘llai na’
- Mae \(\leq\) yn golygu ‘llai na neu hafal i’
- Mae \(\textgreater\) yn golygu ‘mwy na’
- Mae \(\geq\) yn golygu ‘mwy na neu hafal i’
Er enghraifft, os ydy \({x}\textgreater{2}\), a bod \({x}\) yn rhif cyfan, yna \({x} = 3,~4,~5,~6,~7, ...\) (mae \({x}\) yn fwy na \({2}\), ond nid yn hafal iddo, felly paid â chynnwys \({2}\)).
Os ydy \({y}\leq{4}\), a bod \({y}\) yn rhif cyfan, yna \({y} = 4,~3,~2,~1,~0,~-1, ...\) (mae \({y}\) yn llai na \({4}\) neu’n hafal iddo, felly cofia gynnwys \({4}\)).
Question
Os ydy \({z}\geq{3}\), a bod \({z}\) yn rhif cyfan, beth ydy gwerthoedd posibl \({z}\)?
\({3},~{4},~{5},~{6},~{7},~{8}, ...\)
Mae \({z}\) yn fwy na neu’n hafal i \({3}\), felly gall fod yn \({3}\) neu’n unrhyw rif mwy na \({3}\).