Tlodi ac amddifadedd gwledig
Achosion tlodi gwledig
- Incwm isel a gwaith rhan-amser oherwydd prinder busnesau a chyfleoedd i bobl leol mewn ardaloedd gwledig.
- Prinder gwasanaethau, ee iechyd, ysgolion a hyfforddiant oherwydd bod llai o bobl yn byw mewn ardaloedd gwledig i gefnogi a chynnal y gwasanaethau.
- Cludiant cyhoeddus anaml a chostau trafnidiaeth uchel. Gan fod llai o bobl yn byw yno ac yn defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus, mae’n gostus i gwmnïau weithredu. O ganlyniad, mae gwasanaethau llai aml yn cael eu cynnig.
Effeithiau tlodi gwledig
- Pan mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi amaethyddol tymhorol cyflogau isel maen nhw’n cael trafferth i dalu biliau. Efallai y bydd llawer yn ddi-waith am gyfnodau helaeth o’r flwyddyn ac yn dibynnu ar fudd-daliadau.
- Nid oes gan yr ardal wledig gysylltiadau da ag ardaloedd eraill oherwydd prinder gwasanaethau bysiau, ffyrdd gwael a chysylltiad rhyngrwyd gwael - sy’n arwain at arwahanrwydd ac amddifadedd gwledig.
Mewn llawer o gymunedau difreintiedig mae’r dyfodol yn ansicr. Mae rhai ffermwyr yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl oherwydd llai o elw a mwy o gystadleuaeth o dramor.
Arwahanrwydd oddi wrth iechyd ac addysg
Mewn ardaloedd trefol mae amrediad o wasanaethau iechyd, fel clinigau, fferyllfeydd ac ysbytai.
Addysg
Mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau a phrifysgolion yn ogystal ag amrediad o ganolfannau hyfforddi a chanolfannau dysgu oedolion mewn ardaloedd trefol. Ond mewn cymunedau gwledig mae pobl yn agored i niwed ac yn colli’r cyfleoedd hyn gan nad yw’r gwasanaethau iechyd ac addysg hanfodol ar gael yn lleol. Mae rhai’n gorfod teithio dros 100 milltir ar draws ffiniau i gael gwasanaethau iechyd neu fynd i brifysgol.
Iechyd
Ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd-orllewin Cymru, dim ond tair canolfan iechyd sy’n gwasanaethu’r ardal gyfan. Mae’r prif ysbyty dros 30 milltir i ffwrdd ym Mangor, tref fawr ar forlin gogleddol Cymru. I gael gofal arbenigol, mae cleifion yn aml yn gorfod teithio i Lerpwl, 100 milltir i fwrdd, neu i Birmingham, 150 milltir i ffwrdd.
Henoed
Yn aml iawn mae pobl hŷn yn teimlo’n fwy ynysig na’r cenedlaethau iau mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn oherwydd eu bod yn gorfod ymweld yn amlach â gwasanaethau iechyd filltiroedd i ffwrdd. Maen nhw hefyd yn dibynnu mwy ar gludiant cyhoeddus i fynd i wahanol leoedd, a gall hynny olygu siwrneau hir neu annibynadwy.
