Dylet ti fod yn gallu adnabod pedwar math o ongl: ongl lem, ongl aflem, ongl atblyg ac ongl sgwâr. Wrth amcangyfrif maint ongl, dylet ti ystyried pa fath o ongl ydy hi’n gyntaf.
Dyma sut mae lluniadu’r ongl \({PQR} = {60}^\circ\):
1. Tynna’r llinell QR.
2. Rho dy onglydd ar y llinell QR. Gwna’n siŵr fod canol dy onglydd dros y pwynt Q, a bod llinell waelod yr onglydd yn gorwedd yn union dros y llinell QR. Gwna farc ar \({60}^\circ\).
3. Tynna’r onglydd a gwna linell o Q at y marc \({60}^\circ\). Rho’r label P ar y pwynt hwn.