OnglauAmcangyfrif onglau

Dylet ti fod yn gallu adnabod pedwar math o ongl: ongl lem, ongl aflem, ongl atblyg ac ongl sgwâr. Wrth amcangyfrif maint ongl, dylet ti ystyried pa fath o ongl ydy hi’n gyntaf.

Part ofMathemategOnglau

Amcangyfrif onglau

I amcangyfrif maint ongl, meddylia faint mae un linell yn gorfod troi i gyrraedd y llinell arall.

Er enghraifft, ongl lem ydy hon, mae’r llinell yn troi llai nag ongl sgwâr i gyrraedd y llinell arall, felly mae’n rhaid ei bod hi rhwng \({0}^\circ\) a \({90}^\circ\).

Diagram ongl lem

Ongl atblyg ydy hon, mae angen troi mwy na \({180}^\circ\) ond llai na \({270}^\circ\):

Diagram ongl atblyg

I fod yn fwy cywir byth, meddylia yn nhermau onglau \({45}^\circ\).

Mae’r ongl hon yn gorwedd yn rhywle rhwng \({90}^\circ\) a \({135}^\circ\), ond mae’n ymddangos tipyn bach yn agosach at \({135}^\circ\), felly gallet ti amcangyfrif ei bod yn \({120}^\circ\) (neu rywbeth tebyg).

Diagram amcangyfrif onglau