Tectoneg platiau
Mae cramenHaen allanol y Ddaear ar ben y fantell. y Ddaear a rhan uchaf y mantellParth o greigiau poeth y tu mewn i’r Ddaear wedi ei leoli rhwng yr haen allanol a’r craidd tawdd. Mae ganddi briodweddau solid, ond mae hefyd yn gallu llifo’n araf iawn. wedi’u torri’n ddarnau mawr, sef y platiau tectonig. Mae’r rhain yn symud yn gyson ar fuanedd o rai centimetrau y flwyddyn. Dydy hyn ddim yn swnio fel rhyw lawer, ond dros filiynau o flynyddoedd mae’r symudiad yn caniatáu i gyfandiroedd cyfan symud filoedd o gilometrau oddi wrth ei gilydd. Drifft cyfandirol yw’r broses hon.
Ffiniau platiau
Mae tri math gwahanol o ffin plât, yn dibynnu ar sut mae'r platiau yn symud mewn perthynas â'i gilydd.
Ffiniau distrywiol (neu ffiniau cydgyfeiriol)
Ffin lle mae’r platiau’n symud tuag at ei gilydd. Yn aml, mae’r plât dwysaf o’r ddau’n cael ei wthio o dan y plât arall lle mae’n symud i mewn i’r fantell ac yn toddi. Mae hyn yn creu craig dawdd (magma) sydd yna’n gallu cael ei gwthio i fyny drwy’r platiau, gan achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd. Yna, mae’r graig dawdd yn oeri i ffurfio craig igneaidd newydd.
Ffiniau adeiladol (neu ffiniau dargyfeiriol)
Ffin lle mae’r platiau’n symud oddi wrth ei gilydd. Mae magma oddi tan y platiau’n cael ei ryddhau o’r bwlch ac yn codi, yn oeri ac yn ffurfio craig igneaidd newydd. Os yw hyn yn digwydd o dan gwasgeddGrym sy’n cael ei roi dros arwynebedd. Y mwyaf yw’r gwasgedd, y mwyaf yw’r grym ar arwynebedd penodol., mae’n achosi echdoriad folcanig. Un enghraifft o’r math hwn o ffin yw crib Canol yr Iwerydd.
Ffiniau cadwrol
Ffin lle mae’r platiau’n llithro heibio i’w gilydd heb symud tuag at ei gilydd nac oddi wrth ei gilydd. Os yw’r platiau’n symud pellter mawr yn gyflym iawn, mae hyn yn achosi daeargryn. Does dim llosgfynyddoedd ar y math hwn o ffin oherwydd dydy’r graig ddim yn toddi. Un enghraifft o’r math hwn o ffin yw ffawt San Andreas, Califfornia.