Drifft cyfandirol (tectoneg platiau)
Cafodd damcaniaeth drifft cyfandirol ei chynnig ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf gan y gwyddonydd o’r Almaen, Alfred Wegener.
Cyn i Wegener ddatblygu ei ddamcaniaeth, roedd pobl yn meddwl bod mynyddoedd yn ffurfio am fod y Ddaear yn oeri, ac wrth iddi oeri, ei bod hi’n cyfanguLleihau o ran maint neu gyfaint.. Roedd y broses hon yn ffurfio rhychau, neu fynyddoedd, ar gramen y Ddaear.
Pe bai hyn yn wir, byddai’r un faint o fynyddoedd ym mhob rhan o arwyneb y Ddaear. Rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn wir.
Damcaniaeth Wegener
Awgrymodd Wegener fod mynyddoedd yn ffurfio wrth i ymyl un cyfandir sy’n drifftio wrthdaro ag un arall, gan achosi iddo grychu a phlygu. Er enghraifft, ffurfiodd yr Himalayas wrth i India wrthdaro ag Asia.
Cymerodd hi dros 50 mlynedd i ddamcaniaeth Wegener gael ei derbyn. Un o’r rhesymau oedd ei bod hi’n anodd deall sut byddai cyfandiroedd cyfan yn gallu symud. Roedd rhaid aros tan yr 1960au i gael tystiolaeth o gerhyntau darfudiad yn y fantell i ategu’r ddamcaniaeth yn llawn.
Mae’r sioe sleidiau hon yn esbonio damcaniaeth Wegener.
Image caption, Damcaniaeth Wegener
Y Ddaear tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r cyfandiroedd i gyd wedi uno’n un archgyfandir
Image caption, Y cyfandiroedd yn gwahanu ac yn symud oddi wrth ei gilydd
Image caption, Y cyfandiroedd wedi cyrraedd eu lleoliadau presennol
1 of 3
Tystiolaeth o ddrifft cyfandirol
Beth oedd y dystiolaeth o blaid damcaniaeth Wegener?
- Mae’r ffaith bod siâp arfordir dwyreiniol De America yn cyd-fynd ag arfordir gorllewinol Affrica yn awgrymu bod y ddau’n arfer bod yn rhan o un cyfandir (mae hyn yn golygu bod amlinellau’r cyfandiroedd yn ffitio â’i gilydd fel jig-so).
- Mae patrymau tebyg o greigiau ar y ddwy ochr i’r Iwerydd.
- Mae ffosiliau tebyg ar y ddwy ochr i’r Iwerydd – gan gynnwys gweddillion ffosil anifeiliaid tir fyddai wedi methu nofio ar draws o un ochr i’r llall.