Profi am ïonau halid
Yr halogenau yw’r elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. yn Grŵp 7 y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o’r holl elfennau rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae’r holl nwyon nobl i’w gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol.. Halogenau yw clorin, bromin ac ïodin. Rydyn ni’n galw ïonau’r halogenau yn ïonau halid, er enghraifft clorid, Cl–.
Rydyn ni’n defnyddio hydoddiannau arian nitrad i adnabod ïonau halid mewn hydoddiannau. Rydyn ni’n asidio’r hydoddiant prawf â rhai diferion o asid nitrig gwanedig, ac yna’n ychwanegu rhai diferion o hydoddiant arian nitrad. Mae gwaddodDaliant o ronynnau mewn hylif sy’n cael ei ffurfio pan mae sylwedd a oedd wedi ei hydoddi yn dod yn anhydawdd, ee mewn adwaith gwaddod. arian halid â gwahanol liwiau’n ffurfio, gan ddibynnu pa ïonau halid sy’n bresennol:
- mae ïonau clorid yn rhoi gwaddod gwyn o arian clorid
- mae ïonau bromid yn rhoi gwaddod hufen o arian bromid
- mae ïonau ïodid yn rhoi gwaddod melyn o arian ïodid
Er enghraifft:
arian nitrad + sodiwm bromid → sodiwm nitrad + arian bromid
AgNO3(dyfr) + NaBr(dyfr) → NaNO3(dyfr) + AgBr(s)
Mae'n rhaid dysgu'r hafaliadau ïonig ar gyfer yr adweithiau hyn. Ar gyfer yr enghraifft uchod:
Ag+(dyfr) + Br–(dyfr) → AgBr(s)
Un ffordd o gofio’r lliwiau yw meddwl ‘llaeth, hufen, menyn’ (gwyn, hufen, melyn).
Rydyn ni’n ychwanegu’r asid nitrig yn gyntaf i gael gwared ag unrhyw ïonau carbonad allai fod yn bresennol – byddai’r rhain yn cynhyrchu gwaddod gwyn o arian carbonad, gan roi canlyniad cadarnhaol anghywir ar gyfer ïonau clorid.