Camau 5 a 6 – Casgliadau a gwerthuso
Ar ôl casglu, cyflwyno a dadansoddi’r data rhaid i ti allu ffurfio casgliadau a gwerthuso dy ganfyddiadau.
Casgliadau
Dylet allu syntheseiddioDod â’r holl dystiolaeth at ei gilydd er mwyn dod i gasgliad neu wneud penderfyniad. canfyddiadau a thystiolaeth i ffurfio casgliadau sy’n berthnasol i’r cwestiynau cychwynnol gafodd eu gosod yn y gwaith maes ar ddechrau’r gweithgaredd. Bydd angen datganiad pendant sy’n ateb y cwestiwn mawr cychwynnol ac unrhyw is-gwestiynau gafodd eu gofyn.
Gall daearyddiaeth fod yn 'ddi-drefn', hynny yw nid yw gwaith maes bob amser yn cyfateb i ganlyniadau nodweddiadol neu ganlyniadau gafodd eu rhagfynegi. Mae’n iawn i ti ddweud bod dy ganfyddiadau’n annisgwyl, neu nad wyt ti wedi gallu ateb y cwestiwn yn llawn.
Gwerthuso
Yng ngham olaf adroddiad gwaith maes, dylet allu nodi cyfyngiadau tystiolaeth ddaearyddol: cywirdeb, dibynadwyedd a tueddPan fydd gwall yn cael ei gyflwyno i’r broses samplo drwy ddewis neu annog canlyniad neu ateb arbennig yn fwy nag eraill.. Dylet fyfyrio’n feirniadol ar gryfderau a chyfyngiadau data cynradd ac eilaidd, y dulliau y gwnest ti eu defnyddio, y casgliadau rwyt ti wedi eu gwneud a’r wybodaeth rwyt ti wedi ei chael.
Er enghraifft, os wyt ti wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd gwaith maes sy’n edrych ar effeithiau drifft y glannau ar draeth, yna rhaid i ti gydnabod y gallai cywirdeb y data sydd wedi’u casglu fod yn wendid gan fod rhai o’r cyfarpar cofnodi heb eu defnyddio, neu oherwydd eu bod wedi cael eu defnyddio’n aneffeithiol gan rai aelodau o’r grŵp.
Neu, os wyt ti wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd gwaith maes sy’n edrych ar effeithiau traffig ar stryd fawr brysur, rhaid i ti sylweddoli y gallai rhai safbwyntiau yn yr arolwg deubegwn fod wedi’u gwneud gan bobl a fyddai ar eu hennill ar y naill ochr neu’r llall ac, o ganlyniad, nad oes sicrwydd bod y canlyniadau’n ddiduedd.