Cam 4 – Dadansoddi data
Mae’n bwysig defnyddio data’n gywir er mwyn ffurfio casgliadau synhwyrol.
Sut mae prosesu data?
Mae prosesu data yn golygu eu newid i’w gwneud yn fwy defnyddiol. Mae llawer o ffyrdd o brosesu data, gan gynnwys y canlynol:
- cymhareb symlMeintiau cymharol dau neu fwy o rifau, wedi’u dangos fel rhifau cyfan. Er enghraifft, 1:2 neu 3:2. – mae cymarebau’n dangos cysylltiad rhwng dwy set o ddata, ac maen nhw’n cael eu dangos fel dau rif sydd â symbol colon rhyngddyn nhw. Byddai cymarebau’n gweithio’n dda er mwyn dangos dwysedd poblogaeth ardal.
- cyfraneddolPerthynas rhwng dau newidyn, er enghraifft mewn nwy. Wrth i’r tymheredd godi, byddai’r pwysedd yn codi hefyd yn gyfraneddol. (Pe byddai’r tymheredd yn dyblu, byddai’r pwysedd yn dyblu). – mae cyfrannau yn debyg i gymhareb, ond maen nhw’n cael eu hysgrifennu ychydig yn wahanol, ee 1 o bob 10. Byddai cyfrannau’n ddefnyddiol er mwyn dangos nifer yr ymwelwyr mewn ardal.
- cyfartaleddRhif sy’n cynrychioli set o ddata. Mae tri math o gyfartaledd – cymedr, canolrif a modd. – mae cyfartaledd, neu fesur o duedd ganolog, yn cael ei gyfrif fel arfer mewn tair ffordd wahanol:
- Cymedr – adio cyfanswm yr holl werthoedd sydd wedi cael eu casglu, yna rhannu â nifer y gwerthoedd.
- Canolrif – ysgrifennu pob rhif sydd wedi cael ei gasglu mewn trefn rifol a dod o hyd i’r rhif yn y canol.
- Modd – y gwerth mwyaf cyffredin sy’n ymddangos yn y data.
- canranCyfran sy’n cynrychioli rhannau fesul cant, er enghraifft mae 9% yn 9 allan o 100, neu’n 9/100. – gall canrannau naill ai ddangos cyfrannau neu newid dros gyfnod. Byddai canrannau’n ddefnyddiol er mwyn dangos defnydd tir mewn ardal.
Mae’n bwysig meddwl sut i gyfiawnhau’r rheswm dros brosesu’r data mewn ffordd benodol. Meddylia beth mae’r data’n ei ddweud wrthyt, ac a yw’n dangos unrhyw dueddiadau, patrymau neu hyd yn oed anomaleddau penodol.
Daearyddiaeth ehangach
Mae’n bwysig dy fod yn gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau a phrosesau daearyddol eang at dystiolaeth benodol rwyt ti wedi ei chasglu yn ystod yr ymholiad.
Wrth gasglu data ffisegol am gyflymder afon, byddai angen i ti gyfeirio at brosesau afon, er enghraifft erydiad.
Dylet hefyd allu cyfeirio at leoliadau daearyddol eraill. Er enghraifft, wrth gasglu data dynol am newidiadau lleol mewn cymuned benodol, byddet yn ceisio cyfeirio at enghreifftiau o leoliadau eraill rwyt ti wedi dysgu amdanyn nhw yn dy wersi.