Cerddoriaeth gyfunolToccata a Ffiwg yn D leiaf

Cerddoriaeth gyfunol yw pan fydd cyfansoddwyr yn cyfuno dwy arddull gerddorol neu ragor i greu darn newydd o gerddoriaeth.

Part ofCerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Toccata a Ffiwg yn D leiaf

Mae nifer o unigolion a grwpiau wedi perfformio fersiynau o waith J S Bach, Toccata a Ffiwg yn D leiaf, gan gyfuno’r darn gwreiddiol ag arddulliau cerddorol gwahanol.

Mae modd clywed y darn gwreiddiol gan Bach fan hyn:

Darn o 'Toccata a Ffiwg yn D leiaf’ ar gyfer yr organ gan J S Bach

Jacques Loussier - jazz

Mae un fersiwn o Toccata a Ffiwg yn D leiaf gan Bach wedi’i greu gan Jacques Loussier, pianydd a chyfansoddwr o Ffrainc a oedd yn enwog am ei drefniadau jazz o nifer o gyfansoddiadau Bach.

Yn 1959, ffurfiodd driawd gyda Christian Garros ar y drymiau a Pierre Michelot ar y bas dwbl, a chafodd yr ensemble lwyddiant mawr yn ystod yr 1960au a’r 70au. Mae arddull Loussier yn cael ei disgrifio fel ‘trydydd ffrwd’, sy’n gyfuniad o jazz a cherddoriaeth glasurol, ac mae hefyd yn cynnwys chwarae’n fyrfyfyr.

Ym mherfformiad yr ensemble o Toccata a Ffiwg, mae’r bas dwbl yn chwarae’n fyrfyfyr gan ddefnyddio pizzicato i addurno’r alaw wreiddiol, tra bo’r drymiwr yn chwarae gyda brwshys yn ogystal â ffyn, fel sy’n gyffredin mewn triawdau jazz, ac mae’n defnyddio llawer ar y symbalau. Mae’r piano yn chwarae cyfuniad o’r nodiant gwreiddiol a threfniad trawsacennog ohono.

Jacques Loussier a’i driawd yn perfformio fersiwn jazz o 'Toccata a Ffiwg' gan Bach

Craig Pruess - ffync

Mae’r cyfansoddwr o America, Craig Pruess, yn un arall sydd wedi creu trefniant o Toccata a Ffiwg Bach. Mae ei drefniant o 1977 yn cyfuno cerddoriaeth faróc a ffync, a chafodd ei ysgrifennu ar gyfer syntheseiddwyr, cit drymiau, gitâr fas, gitâr drydan ac adran gyrn.

Vanessa-Mae - electro-roc

Recordiodd Vanessa-Mae, y feiolinydd o Brydain, hefyd fersiwn o Toccata a Ffiwg, gan gyfuno’r arddull faróc ag arddull electro-roc. Yn y darn hwn, mae hi’n ychwanegu gwasgiadau dwbl, wythfedau a thrilau i greu sain mwy, ac mae hi’n newid y rhythmau drwy ychwanegu nodau dot. Yn y perfformiad isod, mae band roc ynghyd â nifer o chwaraewyr llinynnau eraill yn ymuno â Vanessa-Mae, gyda dawnswyr yn ychwanegu coreograffi.

Vanessa-Mae yn cyfuno cerddoriaeth faróc ac electro-roc i berfformio ei fersiwn unigryw hi o 'Toccata a Ffiwg yn D leiaf' ar TOTP

More guides on this topic