Siapiau 2DCynrychioliad 2D o siapiau 3D

Mae siapiau 2D yn fflat. Bydd penseiri’n tynnu lluniau 2D – uwcholygon, blaenolygon ac ochrolygon – i weld sut y bydd adeilad yn edrych o bob ochr. Mae gan bedrochrau bedair ochr a phedair cornel.

Part ofMathemategSiapiau

Cynrychioliad 2D o siapiau 3D

Pan fydd penseiri’n dylunio adeiladau maen nhw’n aml yn braslunio lluniadau \({2D}\) i ddangos sut olwg fydd ar yr adeilad o bob ochr. Gelwir y lluniadau hyn yn uwcholwg ac ochrolwg.

  • Y golwg o’r top ydy’r uwcholwg.
  • Y golwg o’r ochr ydy’r ochrolwg.
Diagram cyfaint blwch

More guides on this topic