Yn 2024, lansiwyd ton gyntaf y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, sydd ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2025. Felly, os wyt ti'n dewis dy opsiynau TGAU o 2025 ymlaen, byddi di'n un o'r rhai cyntaf i wneud y cymwysterau TGAU newydd!
Mae dewis dy bynciau TGAU yn gyfle gwych i feddwl am beth wyt ti eisiau gwneud yn y dyfodol. Mae'r fideo hwn (cynnwys Saesneg) yn rhannu pum peth rwyt ti angen gwybod cyn dewis dy bynciau TGAU yng Nghymru a Lloegr.
Pum peth rwyt ti angen gwybod cyn dewis dy bynciau TGAU yng Nghymru a Lloegr (cynnwys Saesneg).
Canllaw Rhyngweithiol Opsiynau TGAU newydd
Er mwyn gwybod mwy am y pynciau sydd o ddiddordeb i ti a'r math o bethau byddet ti'n eu hastudio, edrycha ar y Canllaw Rhyngweithiol Opsiynau TGAU newydd sbon hwn.
Bydd mwy o bynciau yn cael eu hychwanegu at y canllaw wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Mae’n syniad da i fynd i’r noson opsiynau yn dy ysgol, os oes un yn cael ei chynnal er mwyn trafod cynnwys y cyrsiau sydd o ddiddordeb i ti gyda dy athrawon, cyn i ti wneud dy benderfyniad.
Pryd ydw i angen dewis fy mhynciau TGAU?
Yng Nghymru, rwyt ti fel arfer yn astudio ar gyfer TGAU ym mlwyddyn 10 ac 11. Felly, bydd angen i ti ddewis dy bynciau TGAU ym mlwyddyn 9 – mewn rhai ysgolion gall hyn ddigwydd ym mlwyddyn 8. Felly, hyd yn oed os wyt ti ym mlwyddyn 7, dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am dy opsiynau!
Mae ysgolion gwahanol yn gofyn i ddisgyblion ddewis eu pynciau TGAU ar adegau gwahanol, ond fe gei di ddigon o rybudd a gwybodaeth o flaen llaw gan dy athrawon.
Pa bynciau TGAU sy’n orfodol?
Fel arfer, byddi di’n gwneud tua 9 pwnc TGAU. Y pynciau craidd mae’n rhaid i bawb eu gwneud yng Nghymru yw Mathemateg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg a Gwyddoniaeth.
Os wyt ti mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog byddi di’n astudio Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Gradd Unigol) neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Dwyradd). Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, byddi di’n astudio TGAU Cymraeg Craidd.
Fel arfer, mae dewis i wneud gwyddoniaeth fel tri phwnc gwyddoniaeth ar wahân (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) neu fel TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd. Ond, o 2026 ymlaen, fel rhan o don nesaf Cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru, ni fydd y gwyddorau unigol - Ffiseg, Cemeg a Bioleg - yn cael eu cynnig fel TGAU ar wahân. Yn hytrach, bydd y rhain yn cael ei adnabod fel Y Gwyddorau (Dwyradd).
Mae rhai ysgolion yn gwneud pynciau craidd gwahanol, felly gwiria gyda dy athrawon pa reolau sydd gan dy ysgol di.
Beth yw’r pynciau TGAU opsiynol?
Gallet ti gael hwyl yn dewis dy bynciau, mae’r dewisiadau yn wahanol ym mhob ysgol, ond efallai cei di’r opsiwn i ddewis y canlynol:
Iaith dramor fodern. Yr ieithoedd mwyaf cyffredin sydd yn cael eu dysgu yw Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ond mae rhai ysgolion yn cynnig ieithoedd fel Mandarin a Japanaeg. Mewn rhai ysgolion mae dewis iaith dramor fodern yn ofynnol, felly gwiria gyda dy athrawon os ydy'r rhain yn ddewisol neu’n ofynnol fel rhan o opsiynau TGAU yn dy ysgol di.
Un o’r dyniaethau megis Hanes, Daearyddiaeth neu Astudiaethau Crefyddol.
Un o bynciau’r celfyddydau megis Cerddoriaeth, Drama, Celf a Dylunio neu Astudio’r Cyfryngau.
Pwnc technolegol megis Dylunio a Thechnoleg, Bwyd a Maeth neu Gyfrifiadureg.
Mae pob disgybl yn gorfod gwneud Addysg Gorfforol ym mlwyddyn 10 a 11, ond mae opsiwn i’w ddewis fel pwnc TGAU hefyd.
I dy helpu i wneud penderfyniad, hola dy athrawon am bynciau nad wyt ti wedi eu gwneud o’r blaen ond sydd o ddiddordeb i ti, fel eu bod yn gallu esbonio beth sy’n cael ei ddysgu ar y cwrs.


Beth os ydw i’n anhapus gyda fy newisiadau ar ôl cychwyn y pwnc?
Os wyt ti'n anhapus, efallai bydd modd i ti newid dy bynciau. Mae newid pynciau'n ddibynnol ar dy amserlen gan fod rhai pynciau yn gallu gwrthdaro â’i gilydd yn amserlen yr ysgol. Cofia - mae dewis dy bynciau TGAU hefyd yn golygu dewis dy amserlen, felly meddylia yn ofalus a gofyn wrth dy athrawon am yr amserlen o’r pynciau rwyt ti’n awyddus i ddewis.
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi ddewis fy mhynciau TGAU?
Unwaith rwyt ti wedi dewis dy opsiynau, fel arfer cei di ddwy flynedd i weithio tuag at dy arholiadau ac asesiadau. Po fwyaf o bynciau TGAU rwyt ti’n eu pasio, y mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i ti ar gyfer dy ddyfodol – mae hyn yn gwneud dy waith caled yn werth chweil. Bydd rhaid i ti wneud mwy o benderfyniadau pan mae dy ganlyniadau yn cyrraedd. Os dwyt ti ddim yn cael y canlyniad rwyt ti ei angen, efallai bydd opsiwn i ti ail-eistedd dy arholiadau.
Os wyt ti angen cymorth
Dylet ti wastad ddweud wrth rhywun am beth sydd yn dy boeni. Gallet ti ddweud wrth ffrind, rhiant, gofalwr, athro/athrawes neu unrhyw un arall rwyt ti yn ei drystio. Os wyt ti yn cael trafferth gyda dy iechyd meddwl, mae mynd at dy ddoctor yn le da i ddechrau cael y cymorth sydd angen. Gall dy ddoctor rhoi gwybod i ti pa gymorth sydd ar gael, awgrymu gwahanol fath o driniaeth a chynnig ymweliadau cyson i weld sut wyt ti.
Os wyt ti angen cymorth brys, galli di gysylltu â Childline (cynnwys Saesneg), er mwyn siarad â chwnselydd. Mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae modd siarad â Childline yn Gymraeg os wyt ti'n dymuno.
Mae rhagor o ddolenni i sefydliadau defnyddiol ar BBC Action Line (cynnwys Saesneg).