
Cynnwys y wers hon
- Tri fideo ble mae awdur Llinyn Trôns yn trafod y nofel a’r cymeriadau
- Pedwar gweithgaredd i ymgyfarwyddo gyda nodweddion arddull y nofel a datblygu sgiliau gwerthfawrogi cymeriadau
Lesson content
- Three videos in which the author of Llinyn Trôns discusses the novel and its characters
- Four activities to familiarise you with the writing characteristics featured in the novel and develop character appreciation

Fideo 1 / Video 1
Yn y fideo yma, mae Bethan Gwanas, awdur Llinyn Trôns, yn rhannu sut aeth hi ati i ysgrifennu’r nofel a chreu’r cymeriadau ynddi.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Yn y fideo, mae Bethan Gwanas yn sôn am nifer o nodweddion arddull ac sut mae hi’n eu defnyddio wrth ysgrifennu.
Dyma’r nodweddion arddull sy’n ymddangos dro ar ôl tro mewn nofelau:
- cymhariaeth/cyffelybiaeth
- ailadrodd
- trosiad
- amrywiaeth mewn hyd brawddegau
- deialog/sgwrs
- tafodiaith, bratiaith
- idiomau
- cwestiynau rhethregol
- personoli
Chwilia am enghreifftiau o’r nodweddion yma yn y dyfyniad isod:
- cymhariaeth
- deialog/sgwrs
- tafodiaith, bratiaith
Trodd Donna at Gags. “Pwy helpodd chdi, Gags?” Edrychodd arni efo gwên sych. “Ti helpodd fi i mewn i’r canŵ yn de?”
Nodiodd Donna. Roedd y gweddill ohonom ni wedi bod yn rhy brysur yn chwerthin ac yn trio llusgo Pecs fel sach o datws ‘nôl mewn i’w ganŵ o.
Clicia neu bwysa yma i weld a wnest ti ddod o hyd i’r holl nodweddion iaith.

Fideo 2 / Video 2
Yn y fideo yma, mae Bethan Gwanas, awdur Llinyn Trôns, yn ein cyflwyno i brif gymeriadau’r nofel.

Dadansoddi cymeriadau’r nofel Llinyn Trôns
Pan fyddi di’n astudio nofel Gymraeg, un o’r sgiliau angenrheidiol yw dadansoddi cymeriad.
Beth mae hyn yn ei olygu yw bydd angen i ti fedru sylwi a deall sut a pham mae cymeriad yn ymateb neu’n ymddwyn mewn ffordd arbennig.
Bydd hefyd gofyn i ti wybod pa ddigwyddiadau yn y nofel sy’n cynnwys y cymeriad, ac ym mha drefn maen nhw'n digwydd.
Bydd rhaid i ti ystyried agweddau penodol o’r cymeriad, er mwyn dangos dy ddealltwriaeth o'r person.
Rhaid i ti feddwl am:
- y ffordd mae’r cymeriad yn edrych, symud, siarad ac yn y blaen
- pa fath o berthynas sydd gan y cymeriad â chymeriadau eraill, ee beth sydd ganddo/ganddi i’w ddweud am y cymeriadau hynny?
- beth sydd gan gymeriadau eraill i’w ddweud amdano ef/hi?
- yr hyn sydd wedi digwydd i'r cymeriad – yn y gorffennol ac yn y presennol, a sut mae ef neu hi wedi ymateb i hynny
- defnydd yr awdur o arddull


Gweithgaredd 2 / Activity 2
Er mwyn dadansoddi cymeriad, bydd angen i ti yn gyntaf ddod i adnabod y cymeriadau.
Wedi hyn, bydd angen i ti ystyried pa dystiolaeth sydd ar gael yn y nofel i gadarnhau ac i atgyfnerthu dy sylwadau ar y cymeriad.
Gall y gweithgaredd yma dy helpu:
Yn y bysedd ar y llaw chwith, dewisa un cymeriad o'r nofel. Cofnoda bump ansoddair neu nodwedd i ddisgrifio ei bersonoliaeth. Yna yng nghledr y llaw, cofnoda ddyfyniad o'r nofel sy'n dystiolaeth o hyn.
Ar fysedd y llaw dde, gosoda enwau rhwng dau a phump cymeriad arall o'r nofel. Yng nghledr y llaw, cofnoda ddyfyniad gan y cymeriadau sy'n darlunio/dweud rhywbeth am y cymeriad yn y llaw chwith.

Ansoddeiriau defnyddiol i ddisgrifio cymeriad:
| creulon | swil | dihyder | cwynfanllyd | balch |
| mewnblyg | allblyg | cystadleuol | tawel | ffyddlon |
| cydwybodol | bywiog | llawn hwyl | ofnus | annifyr |
| unig | penderfynol | annibynnol | caredig | sbeitlyd |
| teimladwy | hunan-gyfiawn | euog | hoffi tynnu coes | diog |
| busneslyd | twyllodrus | hunanol | tyner | cenfigennus |
| hunan-ymwybodol | egwyddorol | naïf a dibrofiad | cefnogol | cryf |
| clyfar | arwrol | ymarferol | pryderus | dewr |
| aeddfed | anaeddfed | sensitif | gonest | anhapus |

Fideo 3 / Video 3
Ffordd hawdd o gofio prif ddigwyddiadau nofel yw creu llinell amser.
Yn y fideo yma, mae awdur Llinyn Trôns yn sôn am brif ddigwyddiadau’r nofel.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Er mwyn dy helpu i gofio’r digwyddiadau yn y nofel, cer ati i greu llinell amser dy hun.
Os nad wyt ti’n siŵr beth yw llinell amser, clicia neu bwysa ar y linc yma.

Bydd cwestiynau tebyg i’r rhai isod yn medru ymddangos ar bapur arholiad:
- Creu tudalen ar gyfer gwefan fel Facebook, neu Twitter ar gyfer y cymeriad, gan gynnwys gwybodaeth allweddol.
- Creu cyfweliad gydag un o’r cymeriadau ar gyfer rhaglen deledu tebyg i Heno – tua 10 cwestiwn er mwyn i’r cymeriad gael cyfle i drafod teimladau yn ogystal â sôn am ddigwyddiadau.
- Adroddiad papur newydd yn crynhoi rhywbeth wnaeth ddigwydd i gymeriad.
- Ysgrifennu dyddiadur, ymson, deialog gwahanol gymeriadau ar adegau gwahanol yn ystod y nofel.
- Cyfleu cofiant/coffâd i gymeriad sydd wedi marw erbyn diwedd y nofel – gan gofio bod yn onest!

Gweithgaredd 4 / Activity 4
Cer ati i ysgrifennu erthygl papur newydd yn crynhoi rhywbeth ddigwyddodd i gymeriad.
NEU
Ysgrifenna gofiant i Gags.
Os nad wyt ti’n siŵr sut i ysgrifennu erthygl papur newydd, clicia neu bwysa ar y linc yma.
Os nad wyt ti’n siŵr sut i ysgrifennu cofiant, clicia neu bwysa ar y linc yma.

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod prif ddigwyddiadau’r nofel Llinyn Trôns
- dadansoddi cymeriad o’r nofel Llinyn Trôns
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- recall the main events in the novel Llinyn Trôns
- analyse a character from the novel Llinyn Trôns

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
