Erthygl papur newydd

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cyflwyniad yn esbonio arddull ysgrifennu erthygl ar gyfer papur newydd
  • Enghraifft i’w hanodi
  • Sut i ysgrifennu pennawd bachog
  • Un gweithgaredd i greu pennawd bachog ac erthygl fer

Lesson content

  • An introduction to the writing style required for a newspaper article
  • An example to annotate
  • How to write an eye-catching headline
  • One activity to create a headline and write an article to go with it
Llinell / Line

Arddull ysgrifennu erthygl i bapur newydd

Er bod pobl yn cysylltu papurau newydd gyda thrafod y newyddion, mewn gwirionedd, mae pob math o arddulliau ysgrifennu i’w gweld mewn papur newydd:

  • cyfarwyddiadol
  • esbonio
  • disgrifio
  • perswadio
  • naratif
  • trafod
  • ffeithiol

Er enghraifft, os yw erthygl yn trafod y ffasiwn diweddaraf i’w weld yn Wythnos Ffasiwn Llundain, mae’r awdur yn disgrifio’r dillad gan ddefnyddio iaith ddisgrifiadol ac o bosib yn defnyddio iaith berswadiol i annog pobl i brynu dilledyn tebyg.

O bosib y bydd linc ynghlwm â’r erthygl yn dy arwain at siop i brynu’r dilledyn a bydd hwnnw’n defnyddio iaith gyfarwyddiadol.

Iaith esboniadol a ffeithiol a geir mewn erthygl newyddion ‘go iawn’ gan mai’r nod yw cyflwyno’r ffeithiau’n glir i'r darllenwyr.

Pethau i’w cofio wrth ysgrifennu stori newyddion

  • Manylion, ee pwy, beth, ble, pam, sut, pryd?
  • Pwy yw dy gynulleidfa? Addasa dy iaith yn ôl y darllenydd, ee:
    • iaith anffurfiol, siaradus mewn stori ysgafn neu ‘clickbait’
    • iaith ffurfiol, fwy cywir ar gyfer adroddiad ffeithiol
  • Byddi di fel arfer yn defnyddio amser presennol y ferf, ee mae, gwelwn, daw.
  • Ysgrifenna’n drefnus i bobl ddilyn trywydd y stori’n glir, ee yn gyntaf, yn ail, wedyn, nesaf, ar ôl, tra.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Darllena’r erthygl a chwilia am y nodweddion isod:

  • pennawd bachog
  • pwy? beth? ble? pam? sut? pryd?
  • dyfyniad gan lygad-dyst/arbenigwr
  • berfau’r presennol
  • cysyllteiriau

Cadwch draw!

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gadw draw o afonydd a llynnoedd Cymru. Er gwaetha’r tywydd braf, rhaid cymryd gofal, yn ôl penaethiaid Gwasanaeth Tân ac Achub holl ranbarthau Cymru. Mae cynghorau tref a sir wedi gwneud yr un apêl. Mae Cymru dal mewn cyfnod o glo oherwydd y coronafeirws, sy’n golygu bod llai o wylwyr y glannau ac achubwyr bywyd yn gweithio i gadw golwg ar arfordir Cymru. O ganlyniad, mae mentro i’r dŵr yn golygu eich bod yn mentro eich bywyd.
Yn ôl Mair Huws sy’n byw tafliad carreg o Lyn Padarn, mae pobl yn aml yn mynd i drafferthion yn y dŵr. “Er ei bod hi’n gynnes braf ar hyn o bryd, mae dŵr llynnoedd yn oer tu hwnt. Mae’r llyn tua 35 gradd Fahrenheit, felly allwch chi ddim aros yn y dŵr am fwy na thua chwarter awr. Yn anfoddus, mae pobl leol fel fi yn gweld pobl yn mynd i drafferthion dro ar ôl tro a gyda neb yn gwarchod y llyn ar hyn o bryd, rydan ni’n poeni’n arw y bydd rhywun yn mynd i drafferth ac yn boddi a neb wrth law i’w achub.”
Ategodd Dr John Williams mai’r prif berygl i bobl sy’n gallu nofio yw bod eu cyrff yn mynd i sioc dŵr am fod y tymheredd mor oer, a bod hynny’n arwain at lyncu dŵr a boddi.
Mae’r apêl yma’n dilyn marwolaeth dyn aeth i drafferthion yn un o lynnoedd Eryri dros y penwythnos. Cafodd ei dynnu o’r dŵr a’i gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan yr Ambiwlans Awyr. Er gwaethaf ymdrechion meddygon yno, bu farw’n ddiweddarach.
Llinell / Line

Denu sylw

Os oes gennyt ti stori i’w dweud ac rwyt ti eisiau i bobl ei darllen, mae angen denu eu sylw. Y ffordd orau i wneud hynny yw dewis pennawd bachog.

Mae penawdau llwyddiannus yn bachu sylw’r darllenydd ac yn gwerthu’r stori mewn modd sydyn, gafaelgar.

Mae penawdau fel arfer yn:

  • ddoniol
  • chwarae ar eiriau
  • brawychus
  • clyfar
  • dramatig
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dyma rai enghreifftiau diweddar o benawdau:

  • ‘Ga’i weld Nain a Taid rŵan?’
  • Llofrudd!
  • Caewch y drysau, mae Eisteddfod T yn dechrau!
  • Y plant nôl yn y nyth: ymdopi â’r plant yn symud adre.

Beth am edrych ar benawdau cylchgrawn neu bapur newydd ar-lein? Pa enghreifftiau wyt ti’n gallu dod o hyd iddyn nhw?

Edrycha ar y darluniau yma. Wyt ti’n gallu meddwl am bennawd bachog i gyd-fynd â nhw? Cofia dy fod yn ceisio denu sylw’r darllenwyr!

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Ceisia feddwl am bennawd trawiadol ar gyfer erthygl am bwnc sy’n dy ddiddori di, er enghraifft:

  • chwaraeon arbennig
  • ffasiwn
  • celf
  • cyfres deledu/ffilm
  • datblygiadau gwyddonol

Ysgrifenna erthygl fer i ddilyn gan gofio nodweddion erthygl effeithiol.

Defnyddia’r eirfa isod i dy helpu.

Ysgrifennu’n drefnus:

  • yn gyntaf
  • yn ail
  • wedyn
  • nesaf
  • ar ôl
  • tra

Cysyllteiriau yn trafod achos:

  • o ganlyniad
  • felly
  • oherwydd
  • gan hynny
  • yn y pen draw

Cysyllteiriau i ychwanegu ffeithiau/gwybodaeth:

  • yn ogystal â
  • ar ben hynny
  • yn ychwanegol
  • hefyd

Cysyllteiriau i gymharu:

  • yn yr un modd
  • o gymharu
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • adnabod a deall yn hyderus arddull ysgrifennu erthygl papur newydd
  • ysgrifennu erthygl gyda phennawd trawiadol i gyd-fynd ag e

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • confidently recognise and understand the writing styles used when writing newspaper articles
  • write an article with an attention-grabbing headline

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU