
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad yn egluro beth yw cofiant
- Un gweithgaredd i gyfarwyddo gydag amser gorffennol berf
- Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu yn y trydydd person
- Un fideo am fywyd Hedd Wyn fydd yn sail i ysgrifennu cofiant amdano
Lesson content
- One introduction explaining what a biography is
- One activity to recognise past tense verbs
- One activity to practice writing in the third person
- One video about the poet Hedd Wyn’s life, to use as the basis for writing his biography

Beth yw cofiant?
Cofiant yw ysgrifennu hanes bywyd unigolyn. Mae cofiant wastad yn cael ei ysgrifennu am berson penodol gan rywun arall.
Mae cofiant yn wahanol i hunangofiant. Hanes unigolyn yn ei eiriau ei hun yw hunangofiant.
Iaith ac arddull ysgrifennu cofiant
- Mae angen i ti ddefnyddio amser gorffennol y ferf.
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y trydydd person (fe/fo/hi).
- Mae angen dweud beth sydd wedi digwydd yn drefnus ac yn gronolegol – dechrau ar y dechrau a gorffen ar y diwedd.
- Mae angen i ti ateb y cwestiynau:
- beth?
- pryd?
- ble?
- sut?
- pwy?
- Defnyddia dechnegau ysgrifennu ac ymadroddion er mwyn cyfleu cymeriad.
Dyma enghreifftiau o'r math o frawddegau a welir mewn cofiant.
Sylwa sut maen nhw wedi eu gosod yn y gorffennol. Maen nhw'n edrych yn ôl ar fywyd rhywun.
- Yr anrheg Nadolig orau iddo gael erioed oedd…
- Ar ôl gwneud ei TGAU, aeth i weithio mewn siop.
- Uchafbwynt ei yrfa oedd…
- Un peth roedd hi wrth ei bodd yn gwneud oedd…
- Cafodd sioc anferth pan sylweddolodd…
- Digwyddodd rhywbeth syfrdanol iddo.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Mae cofiant yn cael ei ysgrifennu yn defnyddio amser gorffennol y ferf.
Edrycha am ferfau cryno trydydd person yn yr amser gorffennol yn y cofiant isod.
Enghraifft o gofiant Steve Jobs 1955 – 2011
Dyma ddyn a osododd ei stamp ar fyd cyfrifiaduron, ar fyd ffilm, ar fyd cerddoriaeth ac ar fyd y ffôn. Roedd yn un o’r rhai gychwynnodd gwmni Apple yn yr 1970au, mewn garej yn California. Ond yn 1985 aeth pethau’n ddrwg rhyngddo a bwrdd rheoli’r cwmni a chafodd ei ddiswyddo. Bu hyn yn garreg filltir yn ei hanes ac fe elwodd o’r profiad. Cychwynodd gwmni arall a bu’n gweithio i Pixar Animations Studios. Pixar oedd yn gyfrifol am y ffilmiau llwyddiannus a phoblogaidd Toy Story, Finding Nemo a The Incredibles.
Fedrwch chi ddim peidio â’i edmygu. Llwyddodd i drawsnewid Apple a’i wneud yn un o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn y byd. Llwyddodd i lansio'r iPhone a’r iPad ac yntau’n dioddef o ganser y pancreas. Roedd dyfalbarhad yn perthyn i Steve Jobs. Roedd yn dal ati. Roedd yn fodlon ailddechrau os oedd pethau yn mynd o chwith.
Oedd, roedd Steve Jobs yn dipyn o ddyn. Roedd yn athrylith.
–

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifennu yn y trydydd person
Dewisa ffurf gywir y ferf i’w rhoi yn y blwch, gan gofio fod angen defnyddio amser gorffennol y ferf yn y trydydd person ar gyfer ysgrifennu cofiant:
- ______________________ ysgoloriaeth i’r brifysgol. (Enillodd / Enillaist / Enillon)
- ______________________ o amgylch yr ardal. (Crwydrais / Crwydrodd / Crwydroch)
- ______________________ i sefydlu busnes newydd sbon. (Llwyddodd / Llwyddaist / Llwyddwn)
- ______________________ hi’n ferch dalentog dros ben. (Roeddwn / Roeddem / Roedd)
- ______________________ i fyw yn Sbaen pan oedd yn 25 mlwydd oed. (Aeth / Aethom / Es)
- ______________________ ei frawd ei eni tair blynedd yn ddiweddarach. (Cawsom / Cafodd / Cefaist)
- ______________________ lythyr adref at ei rieni. (Anfonaist / Anfona /Anfonodd)
- ______________________ yn dad wedi i’w ferch gael ei geni yn 2004. ( Dod / Daeth / Daethom)

Fideo / Video
Gwylia’r fideo yma am y bardd Hedd Wyn gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ar ôl gwylio'r fideo, ysgrifenna gofiant tudalen o hyd am Hedd Wyn gan ddefnyddio’r wybodaeth rwyt ti wedi ei dysgu am ysgrifennu cofiant.
Dechreua’r cofiant gyda'r brawddegau hyn:
- Ganwyd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd yn 18…
- Magwyd ef yn…
- Aeth i ymladd…
- Ysgrifennodd gerdd…
Bydd y siart corryn yma’n help wrth i ti gynllunio’r cofiant.


Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod a deall yn hyderus beth yw cofiant
- gwybod sut i fynd ati i ysgrifennu cofiant, gan ddefnyddio berfau gorffennol a’r trydydd person
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- confidently recognise and understand what a biography is
- write a biography, using past tense verbs and writing in the third person

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
