Treiglad meddal: berfau

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i'r treiglad meddal a sut mae'n cael ei ddefnyddio gyda berfau
  • Tri gweithgaredd i ymarfer y treiglad meddal gyda berfau

Lesson content

  • One introduction to the soft mutation with verbs
  • Three activities to practise the soft mutation with verbs
Llinell / Line

Y treiglad meddal

Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu’n gywir yn Gymraeg.

Y treiglad mwyaf cyffredin yn Gymraeg yw’r treiglad meddal.

Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio’r treiglad meddal, ond bydd y wers hon yn canolbwyntio ar y rheolau sy’n ymwneud â berfau yn unig.

Dyma dabl o’r llythrennau sy’n treiglo feddal a’r newid sy’n cymryd lle.

LlythyrenBerfenwBerfenw wedi ei dreiglo'n feddal
p > bparhaubarhau
t > dtynnudynnu
c > gcerddedgerdded
b > fbaglufaglu
d > dddeffroddeffro
g > -gyrruyrru
ll > llliwioliwio
m > fmarwfarw
rh > rrhedegredeg

Berfau a berfenwau yw’r geiriau sy’n ymwneud â gwneud rhywbeth penodol.

Dyma’r rheolau sydd angen eu dilyn wrth ystyried pryd i dreiglo’n feddal wrth ddefnyddio berfau.

1. Mae angen treiglad meddal ar gyfer gwrthrych sy’n dilyn ffurf gryno’r ferf

  • llyfr > Darllenaf lyfr da ar hyn o bryd. (amser presennol)
  • car > Prynan gar newydd yn y flwyddyn newydd. (amser dyfodol)
  • plentyn > Gwelaist blentyn yn canu. (amser gorffennol)

Cofia fod hefyd angen treiglad meddal os wyt ti’n defnyddio rhagenwau ar ôl ffurf gryno’r ferf.

  • llyfr > Darllenaf i lyfr da ar hyn o bryd. (amser presennol)
  • car > Prynan nhw gar newydd yn y flwyddyn newydd. (amser dyfodol)
  • plentyn > Gwelaist ti blentyn yn canu. (amser gorffennol)

2. Ffurfiau berfol ar ôl ‘fe’ / ‘mi’

Mae’r ffurfiau ‘fe’ neu ‘mi’ yn cael eu defnyddio gan amlaf wrth ysgrifennu neu siarad yn anffurfiol, ee mewn dyddiadur, mewn sgwrs.

Does dim gwahaniaeth yn yr ystyr rhwng ‘mi’ a ‘fe’ pan maent yn ymddangos o flaen ffurf gryno’r ferf, ac maen nhw’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer pob person.

  • clywais i - Fe/Mi glywais i.
  • talan nhw - Fe/Mi dalan nhw.
  • gwnes i - Fe wnes i fynd.
  • talaf i - Mi dalaf i.

3. Ffurf negyddol y ferf gryno (heblaw am ferfau sy’n cychwyn gyda c, p, t – mae rhain yn cymryd y treiglad llaes)

Edrycha ar y gwahaniaeth rhwng y frawddeg gadarnhaol a’r frawddeg negyddol yn yr enghreifftiau isod. Gyda’r frawddeg negyddol, mae’r ffurf gryno wedi cael ei threiglo’n feddal ar ddechrau’r frawddeg.

CadarnhaolNegyddol
Darllenais i lyfr ddoe.Ddarllenais i ddim llyfr ddoe.
Bwytaist ti frechdan.Fwytaist ti ddim brechdan.
Gwelodd hi fam Robin.Welodd hi ddim mam Robin.

4. Wrth ofyn cwestiwn gyda’r ffurf gryno

  • Ddarllenaist ti lyfr ddoe?
  • Welodd hi fam Robin?
  • Wnaiff / wneith e weld ffilm heno?

5. Ateb yn negyddol, hynny yw dweud ‘na’, wrth ddefnyddio ffurfiau berfol yn dy ateb

Ond, cofia - dydy hyn ddim yn wir ar gyfer unrhyw eiriau sy’n dechrau gyda c, t, p (mae geiriau sy’n dechrau gyda’r llythrennau hyn angen y treiglad llaes yn yr achos hwn)

CadarnhaolNegyddol
ByddwnNa fyddwn
GalloddNa allodd
GwyddostNa wyddost
DylaiNa ddylai

6. Yn syth ar ôl y ffurf orchmynnol gan mai hwn yw goddrych y ferf

  • Darllena lyfr!
  • Siaradwch Gymraeg!
  • Cofiwch wneud hyn!

Clicia yma i ddysgu rhagor am ffurf orchmynnol y ferf

7. Ar ôl rhai arddodiaid

Rhaid treiglo unrhyw air, gan gynnwys berfau, ar ôl yr arddodiaid hyn:

am, ar, at

dan, dros, drwy

wrth, gan, hyd

heb, i, o

  • mynd > heb fynd
  • dod > Wyt ti am ddod efo fi?
  • gweiddi > Mae angen i ti weiddi.

Mae hyn yn cynnwys y patrwm ‘rhaid i’, gan fod ‘i’ yn un o’r arddodiaid sydd angen y treiglad meddal ar ei ôl.

  • bwyta > Oes rhaid i ni fwyta cig?
  • mynd > Mae’n rhaid i’r plant fynd i’r gwely’n gynnar.
  • talu > Does dim rhaid iddi hi dalu’r bil trydan heddiw.

8. Berfenwau ar ôl patrwm ‘hoffwn’ neu ‘dylwn’

  • mynd > Hoffwn fynd. / Mi hoffwn i fynd.
  • mynd > Dylwn i fynd.
  • mynd > Ni ddylwn fynd.
  • cael > Hoffet ti gael paned o de?
  • cael > Ddylai hi gael mynd?
  • cael > Ni ddylen nhw gael yr arian.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Newida'r brawddegau cadarnhaol yma i rai negyddol.

Cofia fod ffurf negyddol y ferf gryno angen treiglo'n feddal (heblaw am ferfau sy’n cychwyn gyda c, p, t, sy'n cymryd y treiglad llaes). I atgoffa dy hun, edrycha ar Reol 3 uchod.

  1. Bwytais i ginio ddoe.
  2. Dawnsiaist ti’n egnïol iawn neithiwr!
  3. Gwrandawodd hi ar ei hoff gerddoriaeth.
  4. Gwenodd ef wrth feddwl am wyliau’r haf.
  5. Meddyliais i am yr atebion cywir i’r cwestiwn.
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Defnyddia ffurf orchmynnol ar gyfer y berfenwau canlynol, a chofia dreiglo’n feddal ar eu hôl.

Er enghraifft:

  • Darllen llyfr. (ti) > Darllena lyfr.
  • Siarad Cymraeg. (chi) > Siaradwch Gymraeg.
  1. Ysgrifennu dyddiadur. (ti)
  2. Prynu cacen. (chi)
  3. Bwyta banana. (chi)
  4. Ceisio rhedeg. (ti)
  5. Osgoi cnoi. (chi)
  6. Cymysgu cynhwysion. (chi)
  7. Gwylio rhaglen. (chi)
  8. Ystyried popeth. (ti)
  9. Dringo mynydd. (chi)
  10. Gadael llonydd. (ti)
Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Rho fe/mi o flaen ffurf gryno’r berfau canlynol.

  1. Cerddais i i’r dre ddoe.
  2. Prynais i ddillad newydd ar gyfer y parti.
  3. Meddyliaf i am syniadau newydd i ti.
  4. Cysgodd hi’n drwm am oriau neithiwr.
  5. Dychmygodd hi fyd newydd iddi hi ei hun.
Llinell / Line

Cwis

Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun.

Mae berfau sy’n dilyn rhai arddodiaid yn treiglo’n feddal. Dewisa’r frawddeg gywir yn y cwis.

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU