JOSEFF Haia. Joseff dw i. Croeso i fy sianel. Yn ymuno gyda fi heddiw mae Mali.
MALI Io!
JOSEFF A heddiw, rydyn ni’n mynd i fynd bach yn retro.
MALI ‘Siwpyr Rasio Berfau?’
JOSEFF ‘Berfâu’
MALI Beth yn y…?
JOSEFF Dyma’r math o gêm roedd Dad yn chwarae pan oedd e’n fach. Erbyn hyn, yr unig beth mae e’n ei wneud yw… DIY.
Tair lap. Mewn berfa. Y cyflymaf sy’n ennill. Barod?
MALI Barod.
JOSEFF Welaist ti hynny? Gymerais i’r gornel fel pro.
MALI Sori, Joseff. Wnes i ddim. Roeddet ti tu ôl i mi.
JOSEFF Dywedaist y gwir.
Roeddwn i tu ôl i ti. Welsoch chi hynny, bawb?
MALI Welson nhw’n iawn.
Be sy’n digwydd?
JOSEFF Camwn i’r presennol.
Mali! Fi’n ennill! Fi’n ennill, Mali!
MALI Enillaf.
Wel. Gawn ni weld pwy sydd yn y ‘stafell sgwrsio? Mae Erin yn dweud, ‘Cyflymach, Mali! Dangosa iddo fe pwy yw’r bos!’ Diolch, cariad. Gwerthfawrogaf y gefnogaeth.
JOSEFF Byddwch ddistaw. Y ddwy ohonoch chi. A gwyliwch y meistr wrthi. Symudaf i’r person cyntaf…
O ho ho! Fi’n mwynhau hyn!
Wps. ‘Mwynhaf’.
Beth nawr?
MALI Cam i’r dyfodol!
Be wnei di, Joseff? Am roi’r gorau iddi?
JOSEFF Ti wir yn meddwl y curi di?
Ym. Methodd signal Mali. Ym… mae’n rhaid. Nawr, wyddwn ni byth pwy enillodd.
More on Ysgrifennu
Find out more by working through a topic
- count5 of 6

- count6 of 6

- count1 of 6

- count2 of 6
