MALI Oes rhaid i ti…?
ERIN Bwrw tu fas.
MALI Ie, ond… mae ‘na bethau ti’n gwneud tu fewn, a phethau ti’n gwneud tu allan.
ERIN Sai’n hoffi darllen… comics.
MALI Beth am eu creu nhw?
ERIN Sut?
MALI Yr oll sydd ei angen yw lle gwag i ysgrifennu… a dychymyg. Ac mae gan bawb… ddychymyg. O. Wel. Ym.
ERIN Dyma fy nychymyg?
MALI Beth yw dy fwriad, i ddechre?
ERIN Fy mwriad?
MALI Beth ti’n ei ddweud? At bwy mae’r comic wedi ei anelu?
ERIN Wel… at bobol fy oed i, siŵr o fod. I’w denu nhw mas o’r tŷ, yn hytrach na threulio eu holl amser yn…
MALI Mae’n iawn. Gei di ddweud e.
ERIN Darllen comics.
MALI ‘Co ni off. Reit. Sut iaith ti am ddefnyddio?
ERIN Iaith? Cymraeg?
MALI Ie, ond… sut iaith? Ffurfiol? Anffurfiol? Pa dafodiaith? Mae’n rhaid i ti wybod y pethau ‘ma. Fel arall, ddaw dy fyd di ddim yn fyw.
ERIN Disgrifiadau ffurfiol. Ond dw i eisiau i’r cymeriadau siarad fel… fel fi. Llyfn. Naturiol. Ond dw i ddim bob tro’n dweud pethau’n gywir.
MALI Paid poeni! Nawr te. Cynnwys. Stori, plot … beth sy’n digwydd?
ERIN Cynnwys?
MALI Mae gen i syniad.
Y dyfodol. Mae’r llywodraeth wedi gwahardd unrhyw ymarfer corff, a phawb yn styc yn eu cartrefi, wedi eu gludo i sgrîns fideo. Yn gwledda ar fynyddoedd o fwyd jync sy’n cael ei anfon at y drws gan ddrôns. Yn tyfu’n dewach ac yn dewach, yn wannach ac yn wannach. Pwy, meddech chi, all achub y dydd? Erin Ysgafndroed! Yr unig un sy’n fodlon herio’r sefydliad, fel Dafydd yn herio Goliath. Yn gwneud i’r holl wlad godi ar ei thraed – a rhedeg!
ERIN Caru’r gyffelybiaeth ‘na. ‘Fel Dafydd yn herio Goliath’. Mae’n dangos bod y byd yn ei herbyn hi. Ond y gallai hi guro unrhyw un ac unrhyw beth!
Beth nesa’?
MALI Cyflwyniad.
Sut mae’r peth yn edrych. Nid beth ti’n ei ddweud, ond… sut wyt ti’n ei ddweud e.
ERIN Iawn. Fi’n meddwl ‘mod i’n deall. Gad e ‘da fi.
MALI ‘Na ti! Llyfr comic! Yn olaf, strwythur.
Sut mae’r comic yn cychwyn? Sut mae’n gorffen? Be ‘dy’r uchafbwyntiau?
ERIN Mae’n cychwyn ‘da merch ifanc, ar ei phen ei hun yn ei stafell wely. Eisiau dianc. Ac yn gwneud! Yn dod dros sawl rhwystr ar hyd y daith. Dyw hi ddim yn siŵr os bydd hi’n llwyddo. Ond mae’n gorffen gyda’r un ferch…
MALI Ti.
ERIN Yn amlwg. Yn trechu’r llywodraeth. Yn rhedeg nerth ei thraed – a’r holl fyd yn dilyn.
MALI Erin?
ERIN Yyym. Ie?
MALI Mae hwn yn dda. Ond ma’ hi wedi stopio bwrw. Gei di fynd allan i redeg nawr.
ERIN Y… ie. Ie. Ocê… Ond mae’r comic ar ei hanner. Bydde fe’n siom i beidio â gorffen.
More on Ysgrifennu
Find out more by working through a topic
- count2 of 6

- count3 of 6

- count4 of 6

- count5 of 6
