
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i'r arddodiaid sydd angen treiglad meddal ar eu hôl, a sut i ddefnyddio arddodiaid yn gywir gyda berfau
- Un fideo, sy'n cynnwys gweithgaredd, i egluro sut i dreiglo'n gywir ar ôl arddodiaid
- Un cyflwyniad ar gyfer gwaith ymestynnol i ddysgu mwy am sut i redeg arddodiaid a dysgu pa arddodiaid i'w defnyddio gyda berfau arbennig
- Un gweithgaredd i osgoi camgymeriadau cyffredin wrth ddefnyddio arddodiaid gyda berfau
Lesson content
- One introduction to the Welsh prepositions that need to be followed by a soft mutation, and how to use the prepositions correctly with verbs
- One video, which includes an activity within it, to explain how to mutate correcty after prepositions
- One introduction for extended work to learn more about how to conjugate prepositions and learn which ones to use with certain verbs
- One activity to help you avoid common mistakes when using prepositions with verbs

Beth yw arddodiad?
Mae arddodiad yn dangos y berthynas rhwng gair ac enw neu ragenw.
Dyma'r arddodiaid mwyaf cyffredin yn Gymraeg:
- am, ar, at
- dan, dros, drwy
- wrth, gan, heb
- hyd, i, o
Mae'r arddodiaid yma yn arbennig iawn, oherwydd mae treiglad meddal yn gorfod dilyn pob un. Felly, mae'n bwysig iawn i ti geisio eu cofio nhw.
Treiglo'n feddal ar ôl arddodiaid
Mae treigladau'n golygu bod rhai llythrennau ar ddechrau gair yn gallu newid. Mae'r newid yn dibynnu ar ba air sy'n dod o flaen y llythyren. Mae angen treiglo'n feddal ar ôl yr arddodiaid sydd wedi eu nodi uchod.
Dyma dabl i dy helpu i gofio'r treigladau meddal. Mae'n dangos enghreifftiau o eiriau yn treiglo'n feddal ar ôl yr arddodiaid arbennig.
| Llythyren | Enghraifft o air | Treiglad ar ôl arddodiad | |
|---|---|---|---|
| p > b | pen | ar ben | |
| t > d | tâl | heb dâl | |
| c > g | ceg | o geg | |
| b > f | bawd | dan fawd | |
| d > dd | dim | am ddim | |
| g > - | gwenu | gan wenu | |
| ll > l | llaw | wrth law | |
| m > f | marwolaeth | hyd farwolaeth | |
| rh > r | rhyddid | dros ryddid |
Enghreifftiau / Examples
Edrycha ar sut mae arddodiaid yn cael eu defnyddio yn y brawddegau isod. Mae pob arddodiad o’r rhestr uchod wedi achosi i’r gair sy’n dilyn dreiglo’n feddal.
- Es i i'r dre __ar f__ws wyth o'r gloch.
- Ymddiheurodd __am b__eidio â dweud y gwir wrth ei gyfaill.
- Ei breuddwyd hi yw i chwarae __dros G__ymru.
Dyma enghreifftiau o frawddegau eraill. Wyt ti'n gallu gweld bod mwy nag un treiglad meddal ynddyn nhw? Mae hyn am eu bod yn dilyn nifer o arddodiaid gwahanol o fewn yr un frawddeg.
- Es i i'r gwely __am d__deg o'r gloch neithiwr __gan o__beithio cael noson __o g__wsg.
- Dw i __ar b__igau'r drain __i w__ybod canlyniad y gystadleuaeth.
- Danfonais i ebost __at g__yfaill yn sôn __am l__yfr gwych.
Eithriadau
Does dim angen treiglo ar ôl pob arddodiad - dim ond ar ôl yr arddodiaid yn rhigwm 'am, ar, at'. Er enghraifft, does dim angen treiglo ar ôl yr arddodiaid cyffredin hyn:
- rhag
- er
- nes
- cyn

Fideo
Gwylia'r wers gan athrawes Gymraeg i ddeall mwy am ba arddodiaid sydd angen treiglad meddal ar eu hôl.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- cofio'r arddodiaid hynny sydd angen treiglad meddal ar eu hôl
- deall pa lythrennau sy'n treiglo'n feddal
- treiglo yn gywir ar ôl arddodiaid arbennig
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- remember the prepositions that need to be followed by a soft mutation
- understand which letters take the soft mutation
- mutate correctly after certain prepositions

Rhedeg arddodiaid (gwaith ymestynnol)
Os yw'r arddodiaid yn rhedadwy, maen nhw’n gallu rhoi gwybodaeth am y person neu'r peth maen nhw'n cyfeirio atyn nhw, ee yr arddodiad 'amdanaf fi' – rydym yn gallu gweld ei fod yn cyfeirio at y person cyntaf, sef 'fi'.
Mae'n bwysig cofio defnyddio'r ffurfiau cywir ar gyfer arddodiaid rhedadwy.
Dyma enghraifft yn y tabl isod ar gyfer yr arddodiad 'ar'.
| Unigol | Lluosog | |
|---|---|---|
| arnaf i | arnom ni | |
| arnat ti | arnoch chi | |
| arno e/o/hi | arnynt hwy / arnyn nhw |
Rhagenwau ac arddodiaid
Dyma'r rhagenwau Cymraeg:
- fi
- ti
- fe/fo
- hi
- ni
- chi
- nhw
Pan mae rhagenw yn dilyn arddodiad mae angen rhedeg yr arddodiad sy’n dod o’i flaen.
Edrycha ar enghraifft o'r arddodiad 'gan' yn y tabl isod. Wyt ti’n gallu gweld bod ‘gan’ yn newid (hynny yw yn cael ei 'redeg') o flaen y rhagenwau? Mewn geiriau eraill, fyddai hi ddim yn gywir i ddweud ‘gan fi’, ‘gan chi’, ‘gan nhw’ ac yn y blaen. Mae'n rhaid rhedeg yr arddodiad.
| Unigol | Lluosog | |
|---|---|---|
| gennyf i / gen i | gennym ni | |
| gennyt ti | gennych chi | |
| ganddo e/o/hi | ganddyn nhw |
Camgymeriadau cyffredin gydag arddodiaid
Un camgymeriad cyffredin yw defnyddio'r arddodiad anghywir ar ôl berf neu ferfenw. Weithiau, mae hyn yn gallu effeithio ar ystyr y frawddeg, ee rwyt ti'n ysgrifennu at berson, ond yn ysgrifennu i sefydliad neu gwmni.
Cofia hefyd dy fod yn:
- gofyn rhywbeth i rywun
- dweud rhywbeth wrth rywun
- siarad â rhywun (ee wyneb yn wyneb, neu ar y ffôn)
Dyma enghreifftiau o ferfenwau sydd ag arddodiaid arbennig yn eu dilyn.
| Enghraifft | Enghraifft | Enghraifft | Enghraifft | |
|---|---|---|---|---|
| Adrodd am/wrth | Credu yn/am | Gofyn i | Gweddïo ar/am/dros | |
| Rhyfeddu at | Ysgrifennu at berson | Ysgrifennu i sefydliad/cwmni | Disgwyl am/i | |
| Gweiddi ar/am | Siarad am/â | Amddiffyn rhag | Cyfarfod â | |
| Anfon at/i | Anelu at | Gofyn i | Dysgu i/am | |
| Dylanwadu ar | Hiraethu am | Synnu at | Dweud wrth | |
| Atal rhag | Cytuno â | Ffarwelio â | Mynd at/i |

Gweithgaredd / Activity
Edrycha ar y darn isod a newidia’r arddodiaid sydd wedi eu huwcholeuo i’r arddodiaid cywir ar ôl y ferf, fel bod y paragraff yn gywir.
Ysgrifennais i Lois Jones eto ddoe i ofyn iddi ddod i siarad ar destun pwysig iawn, sef ‘Hawliau cyfartal i ferched' yn ein cyfarfod nesaf. Dw i wedi bod yn erfyn am Lois i fynychu ein cyfarfodydd ers sbel a dw i wedi dweud iddi ceith hi dâl am ei hamser. Dywedais iddi i anelu am ddeng munud o gyflwyniad ac yna i fod yn barod am gwestiynau. Byddwn yn ffarwelio gydag ambell aelod hefyd gan fod Huw Rhys yn ymfudo at Ganada. Dw i wedi gofyn wrth y tîm roi cyfraniad ato. Dw i am ysgrifennu at gwmni dylunio lleol nawr i gael ein siaradwr nesaf.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
