Hysbysiad preifatrwydd
Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.
Privacy notice - EnglishPam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae’r BBC yn cynnig digwyddiadau Academi’r BBC, fel cyrsiau a hyfforddiant i gynulleidfaoedd ledled y DU a’r tu hwnt. Gallwch gymryd rhan yn y rhain mewn person neu ar eich dyfais eich hun. Byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer y digwyddiadau (naill ai mewn person, seminar ar-lein neu ffrwd fyw) drwy wefan Academi’r BBC, neu drwy ddefnyddio dolenni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwn yn gofyn am eich manylion cyswllt a bydd cyfle i chi gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael newyddion a diweddariadau am waith, cyrsiau a chyfleoedd diweddaraf Academi’r BBC.
Ar ôl i ni gymeradwyo eich cofrestriad ar gyfer digwyddiad, byddwn ni (y BBC) yn anfon dolen atoch chi dros e-bost i wylio’r digwyddiad drwy Zoom neu Microsoft Teams. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd a’ch bod wedi gosod Zoom neu Microsoft Teams er mwyn gallu gwylio’r digwyddiad ar-lein.
Yn ystod y digwyddiad ar-lein neu mewn person, byddwch yn gallu gwylio’r hyfforddwr/panel a chyflwyno sylwadau a chwestiynau drwy’r blwch Holi ac Ateb ar-lein neu mewn person yn y lleoliad. Bydd unrhyw sylwadau neu gwestiynau y byddwch yn eu cyflwyno yn cael eu hadolygu gan ein tîm cymedroli cyn eu trosglwyddo i’r sawl sy’n cynnal y digwyddiad i’w trafod gyda’r panel.
Bydd y BBC yn casglu eich data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC. Er mwyn sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei rwymedigaethau yn y Siarter i hysbysu, addysgu a diddanu, byddwn yn prosesu rhywfaint o’ch data personol i’n helpu ni i wneud yn siŵr ein bod yn darparu rhywbeth i bawb ac i’ch galluogi i elwa ar ein gwasanaethau, gan ein galluogi ni i ddarparu’r gweminarau a’r ffrydiau byw gorau gyda’r wybodaeth, y cyrsiau a’r cyfleoedd mwyaf perthnasol.
Rydyn ni hefyd yn prosesu eich data personol at ddibenion eich presenoldeb yn ein digwyddiadau a rhoi cylchlythyr Academi’r BBC i chi.
Beth fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol rydych wedi’i rhoi i ni amdanoch eich hun.
Data personol
Rhaid i chi fod dros 18 oed i gymryd rhan yn ein digwyddiadau ar-lein. Os ydych chi o dan 18 oed, rhaid i oedolyn fod gyda chi.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiad drwy ein ffurflen gofrestru ar-lein, byddwn yn casglu’r data personolcanlynol amdanoch chi:
- Enw
- Oedran (os byddwch yn dewis ei ddarparu)
- Cod post
- E-bost
- Rhif ffôn symudol (os byddwch yn dewis ei ddarparu)
- Statws cyflogaeth (gan gynnwys teitl swydd os byddwch yn ei ddarparu)
- Lefel uchaf yr addysg a gafwyd
Gan ddibynnu ar y cwestiynau rydych chi’n eu hateb drwy’r ffurflen gofrestru ar-lein a’r manylion rydych chi’n eu rhoi i ni, mae hi’n bosibl y bydd y BBC hefyd yn casglu ac yn prosesu data categori arbennig. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:
- Data sy’n ymwneud ag iechyd
- Data am hil neu ethnigrwydd
Pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad seminar ar-lein neu ffrwd fyw Academi’r BBC, yn ystod y digwyddiad byddwn hefyd yn casglu’r data personol canlynol amdanoch chi o Zoom/Microsoft Teams:
- Eich gwlad
- Eich amser ymuno a gadael
- Eich enw wedi’i gysylltu â sylw os nad ydych yn ei gyflwyno’n ddienw
- Eich sylw neu gwestiwn os ydych chi’n dewis cyflwyno un
Pwy yw’r Rheolydd Data?
Y BBC yw “Rheolydd Data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu.
Fel y Rheolydd Data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â Chyfraith Diogelu Data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.
Bydd Zoom a Microsoft Teams yn gweithredu fel Rheolyddion Data ar wahân mewn perthynas â’r data personol sy’n cael ei brosesu fel rhan o’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu i chi pan fyddwch chi’n creu cyfrif gyda nhw. Bydd sesiynau’r digwyddiad yn cael eu recordio, ac ni fydd modd optio allan o’r swyddogaeth hon.
Mae’r ffordd maen nhw’n prosesu eich data i’w gweld yma ar gyfer Zoom ac yma ar gyfer Microsoft Teams.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Sail gyfreithlon y BBC ar gyfer prosesu data personol yw ei fod yn gwneud hynny er mwyn cyflawni ei rôl gyhoeddus. Y sail gyfreithiol y mae’r BBC yn prosesu eich data categori arbennig arni yw budd cyhoeddus sylweddol. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, addysgu a diddanu.
Mae hyn yn cyd-fynd â dibenion cyhoeddus ehangach y BBC o dan ei Siarter Frenhinol, sy’n datgan bod yn rhaid i’r BBC “...ddangos yr allbwn a’r gwasanaethau mwyaf creadigol ac unigryw o’r ansawdd gorau: dylai’r BBC ddarparu allbwn o ansawdd uchel mewn nifer o wahanol genres ar draws amrywiaeth o wasanaethau a llwyfannau, sy’n gosod y safon yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”
Rhannu eich gwybodaeth
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae’r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol, ac nid yn annibynnol ar y BBC.
Ni fyddwn yn rhannu'ch data personol ag unrhyw drydydd partïon eraill, oni bai fod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Cadw eich gwybodaeth
Bydd y BBC yn cadw eich data cofrestru a ddarperir drwy ein llwyfan ar-lein am 75 diwrnod. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei gyfuno at ddibenion adrodd a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu.
Os byddwch yn dewis cofrestru ar gyfer cylchlythyrau Academi’r BBC, bydd eich data personol yn cael ei gadw er mwyn darparu’r cylchlythyr. Ar ôl (2) flynedd, gofynnir i chi gadarnhau a ydych yn dymuno parhau i dderbyn y cylchlythyr.
Os byddwch yn dewis optio allan/dad-danysgrifio, bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at restr atal a’u dileu ar ôl (90) diwrnod.
Gall recordiadau o'r digwyddiadau ymddangos ar wefan Academi’r BBC, a byddant yn cael eu cadw am byth at ddibenion archifol ac i alluogi eraill i’w gwylio. Dim ond y rhai sy’n cynnal y digwyddiad fydd yn ymddangos ar y recordiadau. Os yw’r recordiad a ddewiswyd yn cynnwys unrhyw sylw neu gwestiwn amdanoch chi a allai gynnwys data personol, bydd hyn hefyd yn cael ei gadw am byth.
Bydd eich data’n cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:
- Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r BBC yn ei storio amdanoch chi.
- Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
- Mae gennych chi hawl i ofyn i’r data personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
- Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
- Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://www.bbc.co.uk/privacy.
Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.