Eich gweledigaeth yn dod yn fyw yn y Stiwdio Aml-Bwrpas
Croeso i’r Stiwdio Aml-Bwrpas, a reolir gan staff profiadol BBC Cymru a gweithwyr llawrydd medrus sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol ac arbenigedd heb ei ail.
P'un a ydych yn cynhyrchu teledu byw, rhaglenni wedi'u recordio ymlaen llaw, neu ddigwyddiadau stiwdio ddeinamig, mae'r gofod amlbwrpas hwn wedi'i deilwra i gyflawni eich uchelgeisiau creadigol.
Wedi'i Ddylunio ar gyfer Pob Genre
Mae'r brif stiwdio deledu yn y Sgwâr Canolog wedi'i hintegreiddio gyda chyfleusterau eraill yr adeilad, gan ei gwneud yn berffaith ar gyfer amrywiaeth eang o gynyrchiadau, gan gynnwys:
1. Chwaraeon
2. Materion Cyfoes
3. Ffeithiol a Dogfen
4. Adloniant
5. Rhaglenni Cylchgrawn Byw
6. Plant a Theulu
Hyblygrwydd digyffelyb
Gyda wal unigryw skyfold, gall y stiwdio hyblyg hon drawsnewid i ddau ofod ar wahân, yn eich galluogi iddefnyddio un ardal neu’r gofod llawn. Archebwch un ardal neu defnyddiwch y gofod cyfan – mae’r dewis lan i chi! Mae’r skyfold hyd yn oed yn gwella inswleiddio sain, gan sicrhau ansawdd sain ragorol.
Pan fydd wedi’i ffurfweddu fel stiwdio sengl, mae'r gofod llawn yn gallu cynnwys hyd at 205 o bobl. Gyda'r skyfold yn ei le, gallwch gynnal cynyrchiadau llai gyda chapasiti o 60–145, yn dibynnu ar faint eich set a'ch gofynion criw.
Cyfleusterau o'r radd flaenaf
Cymerwch eich cynhyrchiad cam ymhellach gyda’n cyfleusterau arloesol:
• Cyfanswm arwynebedd y stiwdio: 340sqm
• Prif ofod: 200sqm
• Ardal estyniad: 140sqm
• Uchder nenfwd: 3.5m
Offer:
• Camerâu System Sony gyda Vinten Peds
• Stype Grip Jib: uchder 5.7m, cyrhaeddiad 3.6m
• 2 Gamera Blwch Sony, yn hawdd eu gosod ar gyfer hyblygrwydd
• Ehangu i 12 camera, gan gynnwys opsiynau Steadicam
• 2 Sianel A/R
• 4 Peiriant Viz gyda Rheolaeth Viz Trio
Sain:
• Mae rhwydwaith cysylltiedig o fwrdd sain Calrec a blychau llwyfan, ynghyd â system microffon radio pedwar ardal a system IEM, yn sicrhau gorchudd sain gynhwysfawr ar draws yr adeilad cyfan.
• Mae cyfleusterau talkback y Sgwâr Canolog yn cael eu pweru gan system gyfathrebu Riedel, sy’n cynnwys paciau gwregys Bolero uchel eu parch. Mae’r system hon yn llawn addasadwy i gwrdd ag unrhyw ofynion rhaglen.
• Atebion goleuo: goleuadau LED caled, meddal a symudol gyda dewisiadau lliw personol
• Llawer o fonitroedd llawr
Stiwdio Sgrin Werdd Parod ar gyfer VR
Defnyddiwch adnoddau rhith realiti yn eich cynyrchiadau. Mae Stiwdio Aml-Bwrpas yn cynnwys sgrin werdd, sydd yn caniatáu i chi:
• Cludo eich talent i amgylcheddau dychmygol ac ymdrochol, sy’n cydio cynulleidfaoedd ac yn codi safon adrodd straeon.
• Creu cefndiroedd amrywiol, o osodiadau syml i fydau aml-haenog a deinamig.
• Ymdrin â gwrthdrawiadau rhaglenni neu gynhyrchu yn ddi-dor gyda dyluniadau gweledol sy’n cyfoethogi profiad y gwyliwr.
Pam dewis y Stiwdio Aml-Bwrpas?
O'r syniad i'r darllediad, mae ein tîm yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd, gan sicrhau bod eich cynhyrchiad yn lwyddiant. P'un a ydych yn creu campwaith aml-gamera wedi'i orffen neu brosiect anghonfensiynol wedi'i deilwra, mae'r stiwdio hon yn darparu'r hyblygrwydd a'r dibynadwyedd sydd eu hangen arnoch.
Cysylltwch â ni heddiw a gadewch i ni wireddu eich gweledigaeth





Get in touch
To enquire about using BBC Cymru Wales TV Studios, OB Facilities, Radio Studios, Post Production or Graphic Design facilities across all genres of television and audio production, email enquiries and quote requests to: walesopsenquiries@bbc.co.uk








