Stiwdio Betty Campbell: Gofod Deinamig ar gyfer Teledu, Radio a Digwyddiadau
Camwch i mewn i Stiwdio Betty Campbell - gofodaml-bwrpas o'r radd flaenaf sy'n berffaith ar gyfer teledu, radio, a digwyddiadau corfforaethol. Gyda thechnoleg o’r radd flaenaf, dyluniad modern, a’r Atriwm cyfagos yn cynnig cyfle i ymestyn y gofod, mae'r stiwdio hon yn ganolfan greadigol a fydd yn dyrchafu bob cynhyrchiad a dgwyddiad.
Nodweddion Allweddol
• Maint: 168 metr sgwâr
• Uchder: 2.7m
• Capasiti: hyd at 120 o bobl
• Aml-ddefnydd: yn ddelfrydol ar gyfer teledu, radio, a digwyddiadau corfforaethol.
• Dyluniad Unigryw: mae paneli gwydr yn agor yn uniongyrchol i'r Atriwm
Offer
Defnyddiwch y dechnoleg orau yn eich cynhyrchiad:
• 4 Camera System Sony gyda peds Vinten.
• Stype Grip Jib: uchder o hyd at 5.7m o uchder a lled o 3.6m ar gyfer ffilmio’n ddeinamig
• 2 Camera Blwch Sony y gellir eu rigio ar gyfer hyblygrwydd
• Gellir ehangu i 12 camera, gan gynnwys opsiynau Steadicam
• 2 Sianel A/R ar gyfer realiti estynedig
• 4 Peiriant Viz gyda Rheolaeth Viz Trio ar gyfer integreiddio graffeg pwerus
• Goleuadau LED: Opsiynau goleuo caled a meddal gyda lliwiau addasadwy.
Stiwdio Sgrin Werdd Barod ar gyfer VR
Defnyddiwch adnoddau rhith realiti yn eich cynyrchiadau. Mae Stiwdio Betty Campbell yn cynnwys sgrin werdd, sydd yn caniatáu i chi:
• Cludo eich talent i amgylcheddau dychmygol ac ymdrochol, sy’n cydio cynulleidfaoedd ac yn codi safon adrodd straeon.
• Creu cefndiroedd amrywiol, o osodiadau syml i fydau aml-haenog a deinamig.
• Ymdrin â gwrthdrawiadau rhaglenni neu gynhyrchu yn ddi-dor gyda dyluniadau gweledol sy’n cyfoethogi profiad y gwyliwr.
Pam dewis Stiwdio Betty Campbell?
O ddigwyddiadau corfforaethol agos atoch i gynyrchiadau darlledu ar raddfa fawruchelgeisiol, mae'r stiwdio hon yn cynnig yr hyblygrwydd, yr offer, a'r arbenigedd i wireddu eich gweledigaeth. Gyda thechnoleg VR ac offer uwch blaengar ar flaenau eich bysedd, mae'r posibiliadau creadigol yn ddiddiwedd.






Get in touch
To enquire about using BBC Cymru Wales TV Studios, OB Facilities, Radio Studios, Post Production or Graphic Design facilities across all genres of television and audio production, email enquiries and quote requests to: walesopsenquiries@bbc.co.uk








