Be a Space Ace!
Zoom through space to find stories, songs and games for young Welsh learners aged 5-7.
Mae Astro Antics yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:
- Camau Cyfri (Mathemateg)
- Doctor Dot (Gwyddoniaeth)
- Peiriant Amser (Hanes)
- Y Goeden Greu (Cymraeg Mamiaith)
Adnodd Cymraeg ail iaith ydy Astro Antics. Cliciwch ar y roced er mwyn mynd at y gweithgareddau. Yna, cliciwch ar y sgriniau teledu i ddod o hyd i:
• Bliblob (creadur fydd yn eich helpu gyda geiriau a brawddegau Cymraeg)
• Tair stori liwgar a chyffrous
• Tair cân sy'n cael eu canu gan grŵp o greaduriaid rhyfedd ond cyfeillgar o'r gofod!
Defnyddiwch y lifrau a'r botymau ar y ddesg reoli i'w haddasu. Eich prif dasg yw i ddarganfod tair cân, tair stori a Bliblob.
Creadur wedi ei animeiddio yw Bliblob sy'n gallu morffio i mewn i ystyr y geiriau a brawddegau Cymraeg sy'n cael eu defnyddio yn y storïau a'r caneuon. Mae hi hefyd yn bosib defnyddio'r adnodd yma ar ei ben ei hun i ddysgu geiriau a brawddegau newydd mewn ffordd hwyliog.
Y Storïau
• O Dan y Môr
• Y Goeden Fach Oer
• Bwlis
• Y Caneuon
• Band Ffantastig Ydyn Ni (We're a Fantastic Band)• Io, io, ie, io!
• Ga i Fod yn y Band? (Can I Be in the Band?)
Mae yna weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r storïau.
Darllen stori (pob stori)
Darllenwch y stori ar gyflymdra sy'n addas i chi. Mae'r ddeialog syml yn y stori yn cynnig cyfle ardderchog i gadarnhau patrymau iaith sydd wedi eu dysgu o'r blaen. Bydd y plant yn clywed ynganiad cywir y geiriau Cymraeg yn ogystal â'r oslef gywir. Dylid eu hannog i ailddarllen y stori er mwyn cadarnhau gwybodaeth ac i ennill hyder wrth ddarllen Cymraeg.
Gwylio stori (pob stori)
Mae'r gweithgaredd yma'n rhoi cyfle i'r plant wylio'r stori gyda thestun neu hebddo. Byddan nhw'n cael cyfle i ddod i ddeall ystyr geiriau a phatrymau brawddegau gyda help lluniau, synau llythrennau a ffurfiau geiriau.
Ysgrifennu stori (Y Goeden Fach Oer ac O Dan y Môr)
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i blant ysgrifennu a dylunio stori eu hunain am gymeriadau a lleoliadau o'r storïau maen nhw newydd ddarllen. Mae gan y gweithgaredd ddwy lefel. Mae gan bob lefel ddetholiad o eiriau allweddol yn ogystal â chefndiroedd, cymeriadau a gwrthrychau o'r stori.
Gall plant ddefnyddio'r adnodd yma i ailddweud stori, ysgrifennu stori wahanol, cynllunio clawr a datblygu deialog rhwng y cymeriadau. Gall plant argraffu eu storïau a'u darllen i eraill.
Trefnu stori (Y Goeden Fach Oer)
Mae dau weithgaredd sy'n profi dealltwriaeth o'r stori:
• gosod lluniau o'r storïau yn y drefn gywir
• cwblhau 5 neu 9 o frawddegau'n gywir (mae nifer y brawddegau yn dibynnu ar eu llwyddiant yn y gêm flaenorol)
• argraffu eu gwaith ar ôl iddyn nhw orffen.
Gêm (O Dan y Môr)
Gall plant greu llong allan o'r darnau sydd wedi eu cuddio yn y gwymon a'r cwrel. Wedyn byddan nhw'n gallu lliwio ac argraffu eu llong.
Caneuon
Creaduriaid o'r gofod yw Llyg, Yng, Soch, Del a Pert a maen nhw'n canu mewn band! Maen nhw'n perfformio tair cân a gallwch chi ganu gyda nhw a hyd yn oed dewis pa eiriau maen nhw am i'r band eu canu.
Cymorth sain a gweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm 'Preferences' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Dydy hi ddim yn bosib mynd at y dewisiadau tra eich bod chi yn yr adran Rhieni ac Athrawon.
Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysell Tab.